Gorchymyn landlordiaid cymdeithasol i gynnal profion tân

  • Cyhoeddwyd
Twr GrenfellFfynhonnell y llun, AFP

Mae landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw brofi unrhyw orchudd ar adeiladau aml-lawr, sy'n debyg i'r deunydd gafodd ei ddefnyddio ar dŵr Grenfell.

Cyn hyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi awgrymu bod gan landlordiaid ddewis i gynnal y profion.

Ond mae llefarydd bellach wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai landlordiaid cymdeithasol - sy'n credu bod cladin ACM (deunydd alwminiwm cyfansawdd) ar eu hadeiladau - eu profi ar frys.

Yn y cyfamser, mae saith bwrdd iechyd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn archwilio'u hadeiladau.

Ar hyn o bryd, mae profion yn cael eu cynnal ar orchuddion saith o dyrrau cyngor Abertawe.

Mae gan Gymru 36 bloc o fflatiau sydd a saith llawr neu fwy, sydd at ddefnydd tai cymdeithasol.

Ble mae tyrau tai cymdeithasol Cymru?

Caerdydd - 12

Ynys Môn - 1

Abertawe 14

Sir y Fflint - 3

Torfaen - 2

Merthyr Tudful - 1

Casnewydd - 3

Yn flaenorol, roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru fod Ysgrifennydd cymunedau'r Cabinet, Carl Sargeant "wedi annog awdurdodau oedd eisiau profi cladin i wneud hynny", gan awgrymu mai gwirfoddol oedd yr alwad.

Ond, wrth ymateb i gwestiwn gan BBC Cymru pam nad oedd y profi'n orfodol, dywedodd y Llywodraeth: "Rydym yn dweud wrth bob landlord cymdeithasol i brofi unrhyw adeiladau y maen nhw'n amau sy'n cynnwys ACM.

"Mae'r sefyllfa hon yr un fath ag un Lloegr."

Dywedodd y llefarydd fod landlordiaid cymdeithasol ar draws Cymru wedi rhoi sicrwydd iddyn nhw nad oedd blociau fflatiau yma yn cynnwys deunydd Reynobond PE - y gorchudd a ddefnyddiwyd ar Dŵr Grenfell.