Cyhoeddi enw datblygiad newydd yn hen farchnad Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae'r datblygiad yn cael ei adeiladu ar hen safle Marchnad y Bobl yn Wrecsam
Tŷ Pawb fydd enw'r datblygiad newydd ar safle Marchnad y Bobl yng nghanol Wrecsam.
Pleidleisiodd 897 o'r cyhoedd ar ddewis o dri enw oedd dan ystyriaeth - Tŷ Pawb, Cartref neu Oriel M.
Daeth cadarnhad yng nghyfarfod o bwyllgor gwaith y cyngor fore Mawrth mai Tŷ Pawb fydd yr enw newydd.
Nid pawb oedd yn hapus gyda'r datblygiad £3.5m, ddechreuodd ym mis Ionawr.
Roedd rhai masnachwyr yn anfodlon eu bod yn gorfod symud eu busnesau, ac mae eraill wedi codi pryderon am gost y cynllun.
Mae disgwyl i'r datblygiad gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2018.