Cynnydd o 11% yn nifer yr ymwelwyr undydd â Chymru

  • Cyhoeddwyd
twristiaethFfynhonnell y llun, MATTHEW CATTELL
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eryri'n denu miloedd o gerddwyr a dringwyr

Fe ddaeth 11% yn fwy o bobl ar ymweliad undydd â Chymru yn y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2017 na'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Mae ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru hefyd yn nodi fod ymwelwyr wedi gwario dros 51% yn fwy tra ar eu gwyliau yma.

Cafwyd 102 miliwn o ymweliadau undydd, a arweiniodd at wariant o £4.8bn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r ffigyrau'n galonogol, gan fod nifer yr ymweliadau undydd i weddill Prydain wedi gostwng 1%.

Ffynhonnell y llun, RAJEEV PEEKA

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, fod twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref.

"Mae'n newyddion gwych ein bod yn denu mwy o ymwelwyr i Gymru - a'u bod yn gwario mwy ar eu tripiau gan roi hwb i'r economi," meddai.

"Yn ogystal, dywedodd 87% o'r rhai a ymatebodd i'n harolwg baromedr twristiaeth ym mis Mehefin eu bod yn teimlo'n hyderus ynghylch sut y bydd eu busnes yn perfformio dros yr haf.

"Byddwn yn parhau â'n hymgyrch i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddenu ymwelwyr sydd am wyliau adref oherwydd y bunt wan ac i roi rhesymau cryf i bobl ymweld â Chymru yn yr hydref."