Archwiliad i fwrdd iechyd yn dilyn achos gweithiwr
- Cyhoeddwyd
Bydd pwyllgor gwarchod yn cynnal archwiliad i weld a yw bwrdd iechyd wedi dysgu gwersi yn dilyn honiadau o ymosodiad rhyw yn erbyn gweithiwr ysbyty.
Fe wnaeth adroddiad mewnol ganfod na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ddilyn cwynion yn erbyn Kris Wade, aeth ymlaen i ladd dynes, yn ddigon "cadarn".
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ei bod hi'n hanfodol fod y GIG yn dysgu o'r adroddiad.
Mae wedi gofyn i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) gynnal asesiad.
Yn ôl y bwrdd iechyd fe fyddan nhw'n gwneud "popeth yn eu gallu i gydweithredu'n llawn" gyda'r archwiliad ac maen nhw wedi ei groesawu.
Dysgu gwersi
Cafwyd galwadau am ymchwiliad yn dilyn yr adolygiad mewnol gan y bwrdd iechyd, gyda Chymdeithas Feddygol Prydain yn dweud ei fod yn annerbyniol fod bwrdd iechyd yn ymchwilio i'w hun.
Fe wnaeth Kris Wade, oedd yn gynorthwyydd nyrsio, gyfaddef i ladd ei gymydog Christine James mewn ymosodiad rhyw yn 2016.
Roedd Wade yn gweithio yn yr adran ddysgu ac anableddau yn Nhŷ Rowan, Caerdydd pan gafodd tri honiad gwahanol eu gwneud, rhwng Gorffennaf 2010 a Rhagfyr 2011, gan gyn gleifion.
Cafodd y cyhuddiadau eu cyfeirio at Heddlu'r De ond ni chafodd unrhyw gamau troseddol eu cymryd.
Pan gafodd Wade ei arestio am lofruddiaeth ym mis Mawrth 2016, roedd eisoes wedi ei wahardd gan y bwrdd iechyd wrth iddyn nhw gynnal proses ddisgyblu yn dilyn yr honiadau o ymosodiad rhyw. Cafodd ei ddiswyddo yn ddiweddarach.
Dywedodd adroddiad y bwrdd iechyd fod "sawl elfen yn ymwneud â phrosesau ac ymatebion y bwrdd iechyd i'r honiadau oedd angen eu gwella".
Bydd HIW yn edrych a yw "gwersi wedi eu dysgu" o'r adroddiad mewnol, ac os yw'r camau sydd wedi eu cymryd ers hynny "yn ddigon eang a chadarn".
Byddan nhw hefyd yn ystyried os yw trefniadau wedi eu gwneud i fonitro'r camau sydd wedi eu cymryd yn effeithiol, ac "os oes unrhyw wersi pellach ddylai gael eu rhannu â'r GIG ar draws Cymru".
Mewn datganiad fe ddywedodd Mr Gething ei fod wedi gofyn am "asesiad annibynnol" gan y pwyllgor gwarchod iechyd.
'Croesawu adolygiad'
"Mae'r adroddiad yma yn ein hatgoffa o'r angen i sicrhau fod yr holl staff yn deall y polisïau a'r canllawiau sydd yn eu lle yn y maes yma, a bod eu defnydd a'u gweithrediad yn cael ei fonitro'n gyson.
"Mae'n amlwg yn hanfodol ein bod ni'n cymryd yr holl gamau priodol i sicrhau fod holl sefydliadau'r GIG yn dysgu ohono."
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn dweud eu bod yn croesawu'r adolygiad gan HIW ac y byddan nhw'n gwneud "popeth yn eu gallu i gydweithredu'n llawn".
"Rydyn ni'n parhau i ddefnyddio ein hadroddiad fel enghraifft er mwyn addysgu ac i gynnal trafodaethau ymhlith staff," meddai'r bwrdd iechyd.
"Rydyn ni hefyd wedi rhannu'r adroddiad gyda'n bwrdd rhanbarthol diogelu aml-asiantaeth, sef cynrychiolwyr o ystod o sectorau sydd yn cynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, carchardai ac addysg."
Methiannau mawr
Maen nhw'n dweud bod disgwyl i'r adroddiad gael ei drafod yn y cyfarfod nesaf.
Yn ôl Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, mae'n bwysig "dysgu gwersi" o'r broses ac mae angen i HIW siarad â'r rheiny wnaeth godi'r pryderon.
"Mae'n amlwg na ddylai bwrdd iechyd fyth gael eu gadael i ymchwilio i bryderon difrifol am eu hunain, yn enwedig o ystyried maint y methiannau yn yr achos yma, wnaeth arwain at achosion difrifol o beryglu diogelwch cleifion," meddai.
Dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru eu bod yn croesawu archwiliad HIW, a bod y pwyslais arnyn nhw i "roi sylw i'r materion gafodd eu methu yn yr adroddiad gwreiddiol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2016
- Cyhoeddwyd22 Medi 2016