Cyfarfod llwch llif Kronospan: 'Dal i ymchwilio'

  • Cyhoeddwyd
KronospanFfynhonnell y llun, Facebook/Stop Kronospan Pollution
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd lluniau o'r llwch yn yr awyr ac ar geir eu cyhoeddi ar wefan gymdeithasol

Mae Cyngor Wrecsam yn dal i ymchwilio wedi i lwch llif gael ei ryddhau o ffatri yn Y Waun.

Bu'n rhaid i Kronospan ymddiheuro am y digwyddiad yr wythnos diwethaf wedi i gawod o lwch ddisgyn ar dai a busnesau yn yr ardal.

Fe wnaeth swyddogion y cwmni drafod gyda chynghorwyr a swyddogion amgylcheddol mewn cyfarfod ddydd Llun.

Wedi'r cyfarfod, dywedodd y cyngor bod swyddogion yn dal i ymchwilio, ond bod y cyfarfod wedi bod yn "bositif".

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn y cyfarfod ond nid ydyn nhw'n gyfrifol am y rhan o'r ffatri dan sylw.