Galw am atebion brys wedi i lwch ddisgyn ar dai a cheir
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol De Clwyd wedi galw am "atebion brys" wedi digwyddiad pan gafodd llwch llif ei ryddhau i'r awyr o ffatri Kronospan yn y Waun ger Wrecsam.
Dywedodd Susan Elan Jones fod trigolion yr ardal yn "haeddu eglurhad teilwng" am yr hyn a ddigwyddodd nos Fercher.
Disgrifiodd trigolion sut y disgynnodd cawod o lwch ar yr ardal.
Fe gafodd Kronospan 12 o gwynion yn dilyn y digwyddiad, a ddaw lai nag wythnos wedi tân ar yr un safle.
Mae'r cwmni wedi ymddiheuro.
Sefyllfa 'cwbl annerbyniol'
Dywedodd Susan Elan Jones: "Yn dilyn digwyddiad neithiwr, mae fy etholwyr yn haeddu eglurhad teilwng am yr hyn ddigwyddodd."
"Yn debyg i achosion blaenorol, rydw i wedi cysylltu â Chyngor Wrecsam a Chyfoeth Naturiol Cymru.
"Wrth reswm, rwy'n cydnabod fod Kronospan yn gyflogwr lleol pwysig iawn. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd y diwydiant.
"Fodd bynnag, mae'r sefyllfa'n gwbl annerbyniol ac anghynaladwy i fy etholwyr. Mae angen atebion brys yn ogystal â sicrwydd na fydd hyn fyth yn digwydd eto."
Dywedodd Cynghorydd gogledd y Waun, Frank Hemmings: "Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r Grŵp Cyswllt Amgylcheddol, y Cyngor Tref a Kronospan ddydd Llun.
"Bydd disgwyl i Kronospan ddarparu eglurhad am y digwyddiad pryderus wrth Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Wrecsam."
Llwch 'ymhob man'
Dywedodd Sam Heyward, sy'n byw yn lleol, fod llwch "dros y llwybrau a cheir a thai - roedd ymhob man".
"Roedd fel tasai hi'n bwrw llwch llif a deunydd MDF. Dwi'n clywed fod dwy gêm bêl-droed wedi cael eu gohirio o'i herwydd," meddai.
"Wedi'r digwyddiad, anfonodd Kronospan bobl i 'sgubo'r ffyrdd yn ogystal a thancer i chwistrellu dŵr dros y pren a'r llwch, i'w atal rhag chwythu i ffwrdd.
"Mae pobl yn poeni. Digwyddodd hyn ychydig ddyddiau wedi tân yn y ffatri'r wythnos ddiwethaf.
"O edrych ar y llwch, mae'n edrych fel petai wedi cael ei brosesu mewn rhyw fodd, felly dydyn ni ddim yn siŵr a ydy'n cynnwys cemegion ai peidio."
Dywedodd cwmni cyfreithwyr Huw James, sydd eisoes yn cynrychioli 70 o deuluoedd Y Waun mewn achos cyfreithiol yn erbyn Kronospan, eu bod yn ymwybodol o'r llwch sydd wedi ymddangos, a'i fod yn "nodweddiadol o'r problemau y mae trigolion wedi bod yn cwyno amdano ers nifer o flynyddoedd."
Maen nhw'n mynd â'r cwmni i gyfraith oherwydd "llwch, arogl a sŵn" y credir ei fod yn tarddu o'r safle.
Ymddiheuriad
Fe gafodd Kronospan 12 o gwynion yn dilyn y digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: "Dymuna Kronospan ymddiheuro'n llaes i'r trigolion am y digwyddiad a arweiniodd at ryddhau ffibrau neithiwr.
"Cafodd y broses ei hatal ar unwaith, a dechreuwyd ar broses lanhau ar ac oddi ar y safle."
Ychwanegodd y cwmni y dylai unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan y digwyddiad gysylltu â'r ffatri.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2017