Erlyn bwrdd iechyd am iawndal wedi ymosodiad rhyw honedig

  • Cyhoeddwyd
Kris WadeFfynhonnell y llun, South Wales Police

Mae bwrdd iechyd a fethodd ag ymchwilio yn ddigon "cadarn" i honiadau o ymosodiadau rhyw yn cael eu herlyn am iawndal.

Cafodd yr honiadau eu gwneud yn erbyn Kris Wade, cynorthwyydd nyrsio a laddodd ei gymydog Christine James y llynedd mewn ymosodiad â chymhelliad rhywiol.

Rhwng 2011 a 2013, roedd tair dynes ag anableddau dysgu wedi honni iddo ymosod arnyn nhw tra'u bod nhw'n gleifion iddo.

Mae un o'r tair bellach yn erlyn cyflogwr Wade, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, am iawndal yn dilyn yr ymosodiad honedig.

'System wedi ei methu'

Fe ddaeth adroddiad mewnol i'r casgliad nad oedd y bwrdd iechyd wedi ymchwilio i'r tri honiad yn ddigon "cadarn", a bod tueddiad i weithredu ar sail "pa mor gredadwy oedd cleifion".

Roedd y bwrdd iechyd wedi cyfeirio'r honiadau at Heddlu'r De fodd bynnag, ond ni chafodd unrhyw gyhuddiadau eu dwyn, er bod un o'r tri chwyn wedi cael ei gyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron.

Dywedodd Alan Collins o gwmni cyfreithwyr Hugh James, sydd yn cynrychioli'r achwynydd, fod yr adroddiad wedi canfod "na chafodd y prosesau a'r trefniadau eu dilyn".

"Dwi'n meddwl fod hwn yn achos clir o ddiffyg goruchwyliaeth effeithiol gan y rheolwyr," meddai.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kris Wade ladd Christine James yn ei fflat ym Mae Caerdydd

"Mae'n ymddangos fel bod sawl cyfle wedi codi i osgoi'r math o drasiedi a ddilynodd o achos cyflogi Wade.

"Mae fy nghleient wedi cael amser hynod o anodd.

"Yn amlwg, mae hi wedi gorfod delio â'r ymosodiad rhyw, wedyn mae hi wedi cael brwydr hir i gael cydnabyddiaeth ac unrhyw fath o gyfiawnder sbel wedi hynny.

"Mae'r system wedi ei methu. Mae wedi ei methu hi ym mhob ffordd."

Asesiad

Cafodd Wade ei atal o'i waith gan y bwrdd iechyd ym mis Hydref 2012 cyn cael ei wahardd yn ddiweddarach.

Fe gafodd ei ddiswyddo ym mis Ebrill 2016, ar ôl cael ei arestio am lofruddio Christine James yn ei fflat yng Nghaerdydd, a'i garcharu am oes ym mis Medi'r flwyddyn honno.

Roedd y cwynion yn ei erbyn yn ymwneud â'i gyfnod fel cynorthwyydd nyrsio mewn canolfan addysg ac anableddau yn Rowan House, Caerdydd.

Dechreuodd weithio yno ar ôl cael ei anfon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i gynorthwyo yn yr adran dechnoleg wybodaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething y bydd asesiad yn cael ei gynnal

Mae rhai gwleidyddion a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi galw am ymchwiliad annibynnol i'r achos, gan ddweud nad oedd hi'n iawn fod y bwrdd iechyd wedi ymchwilio i'w hun.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething bellach wedi gofyn i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) gynnal asesiad o'r achos.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eu bod yn "ymddiheuro'n ddwys i'n claf" a'u bod yn gweithio i ddatrys ei chais "mor fuan â phosib".

Ond ychwanegodd y bwrdd iechyd nad fyddai eu tîm ymchwiliad nhw wedi gallu darogan nag atal ymddygiad Wade y tu hwnt i'r gweithle.

Croesawu adolygiad

"Fe wnaethon ni barhau gyda'n proses ddisgyblu [ar ôl clywed na fyddai'r heddlu yn parhau â'u hymchwiliad]. Daeth hwnnw i'r casgliad fod yr honiadau wedi eu profi ar sail tebygolrwydd," meddai datganiad y bwrdd.

"Fe weithredon ni ein polisi cosb disgyblu mwyaf llym, a'i ddiswyddo am gamymddwyn difrifol."

Ychwanegodd y bwrdd iechyd eu bod wedi cymryd camau ers yr honiadau ac yn "defnyddio'r adroddiad fel esiampl o astudiaeth achos er mwyn i staff ddysgu a thrafod".

"Rydym yn croesawu adolygiad allanol HIW a byddwn yn cydweithio â nhw yn llawn."

'Canfyddiadau cadarn'

Wrth ymateb i gwestiwn ar yr achos yn y Senedd gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones na fyddai'n ceisio dweud wrth HIW "beth y dylen nhw ei wneud a pheidio â'i wneud".

"Bydden i'n disgwyl iddyn nhw gasglu cymaint o dystiolaeth ag sy'n bosib er mwyn i'w canfyddiadau fod mor gadarn â phosib," meddai.

Mewn datganiad fe gadarnhaodd Heddlu'r De eu bod wedi derbyn tri honiad gwahanol o ymosodiad rhyw gan aelod o staff yn erbyn cleifion yn Rowan House.

"Fel rhan o'r ymchwiliadau hynny cafodd dyn oedd yn ei 30au ar y pryd ei gwestiynu yn wirfoddol gan swyddogion. Ym mhob achos nid oedd modd cymryd camau pellach yn dilyn cyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron."