Agor fy nghalon

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n gyfarwydd fel actores a chyflwynydd ond nawr mae Ffion Dafis wedi troi ei doniau at sgwennu.

Yn ei chyfrol 'Syllu ar Walia' (Y Lolfa) mae Ffion yn ymdrin â phynciau personol y mae'n gobeithio y gall menywod eraill uniaethu â nhw.

Bu'n siarad â Cymru Fyw am agor ei chalon a rhoi llais i ferched:

Nid hunangofiant ydy'r gyfrol yma. Oes ma' 'na elfennau cofiannol, ond roedd yn gyfle i 'neud rhywbeth creadigol am bynciau cignoeth a cheisio delio â phethau.

Dwi'n meddwl wrth fynd ati i gychwyn y 'sgwennu, o'n i eisiau arbrofi efo technegau. Dwi'n defnyddio'r stori fer a wedi ei wneud o i ymddangos yn y person cyntaf, mai fy llais i ydy o. Oedd hynny'n eitha' pwysig.

Ond, fel dwi'n dweud ar gychwyn y llyfr, pwy â wyr ai fi ydy hi go iawn. Dwi eisiau i'r darllenydd i feddwl bod 'na ddychymyg a chof yma.

Mae gen i straeon doniol a digri am ddynion ac alcohol, ond mae gennai betha' fwy emosiynol a dirdynnol ynddo fo hefyd. Dwi wedi 'sgwennu'r gyfrol yma i ferched eraill.

Llais i ferched

Weithia' ti'n teimlo bod pobl yn gofyn i ti am blant ac yn gofyn 'faint o blant sy' gen ti?' a phan ti'n dweud 'does gynna i ddim', weithie mae hynny'n gallu bod yn sioc i bobl. Dydy o ddim yn fy mhoeni i, ond dwi yn meddwl ei fod o'n rhywbeth sy'n digwydd, a dwi'n meddwl ei fod yn neis cael llais i ddod â'r math yma o bynciau i fyny bob hyn a hyn, fel bod merched eraill yn gallu uniaethu hefyd.

Merched ac alcohol

Dwi'n meddwl bod alcohol yn rhywbeth sy'n rhaid ei gwestiynu mewn cymdeithas yng Nghymru. Mae'n fy mhoeni i ein bod ni'n troi o gwmpas alcohol gymaint a dwi'n delio efo hynny a dwi'n delio efo sefyllfaoedd dwi a merched eraill, o oedran cynnar iawn, wedi rhoi ein hunain ynddi.

Dwi'n meddwl ei bod hi'n berthynas beryglus weithiau, a dwi'n gwybod am bobl sy' wedi mynd i drybeini a sydd wedi bod yn ddigon ffodus i achub eu hunain. Dwi'n meddwl mai problem gymdeithasol ydy hi, a dwi'n meddwl bod y cwestiynau hefo merched ac alcohol ddim yn cael eu gofyn na'u hateb yn aml iawn.

Disgrifiad,

Nia Roberts yn sgwrsio â Ffion Dafis ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru

Colli mam...

O'n i isho gwneud darn creadigol oedd yn delio efo colli mam. Fe ddoth honna'n eitha' hawdd achos maen nhw'n deimladau dwi 'di teimlo ers blynyddoedd, ond hefyd dw i wedi rhoi gogwydd llenyddol ar bopeth, er bod fy llais i ynddo fo.

O'n i'n awyddus i arbrofi efo fy 'sgrifennu fel fy mod i'n gallu delio efo ambell beth mewn ffordd greadigol a defnyddio technegau gwahanol. Dwi 'di cael blas ar y 'sgwennu a dwi'n gobeithio y bydd pobl yn ei werthfawrogi.

Syllu ar Walia, Y Lolfa