Achos Hart: Barnwr yn beirniadu staff ysbyty a'r heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr yn Abertawe wedi beirniadu staff ysbyty a'r heddlu wedi i droseddwr rhyw fynd ar goll yn ystod achos llys.
Roedd David Hart, 60 oed o Dreforys, yn wynebu nifer o gyhuddiadau, gan gynnwys treisio ac ymosodiadau rhyw.
Ddydd Mawrth, methodd Hart â mynd i'r llys, pan oedd y barnwr Geraint Walters ar fin crynhoi'r achos.
Cyhoeddodd Mr Walters warant i'w arestio, ac yn ei absenoldeb, dyfarnodd y rheithgor ei fod yn euog o bob cyhuddiad yn ei erbyn.
Egluro
Ddydd Iau, gwahoddodd y barnwr arolygydd gyda Heddlu'r De i egluro beth ddigwyddodd wedi i'r warant gael ei gyhoeddi.
Clywodd y llys fod y barnwr wedi gofyn i Wasanaeth Erlyn y Goron gysylltu â'r heddlu a gofyn iddyn nhw fynd i'r ysbyty "i siecio fod pethau fel a ddwedwyd wrtha i".
Roedd Hart wedi mynd i ysbyty Treforys am ei fod yn teimlo'n sal.
Dywedodd Mr Walters ei fod wedi cael gwybod fod nyrs yn yr ysbyty wedi gwrthod rhannu gwybodaeth am yr unigolyn pan gysylltodd yr heddlu â nhw tua 12:20 ddydd Mawrth.
Dywedodd Mr Walters: "Er fy mod i'n deall pwysigrwydd cyfrinachedd claf, mae hyn yn fy siomi'n fawr."
Ychwanegodd ei fod wedi cael gwybod ar un pwynt fod plismyn wedi mynd i'r ysbyty ond iddyn nhw gael gwybod gan staff fod y diffynnydd wedi gadael.
Dywedodd yr Arolygydd Gareth Hawkins o Heddlu'r De wrth y llys fod yr ysbyty wedi dweud wrth swyddogion fod Hart yn dal yno pan alwon nhw am 17:05, ond roedd wedi ei ryddhau ac wedi gadael yr adeilad erbyn 17:30.
Dywedodd nad oedden nhw wedi cael gwybod hyn gan yr ysbyty.
Pryderon
Ychwanegodd Mr Walters: "Dydw i ddim yn beio unrhyw un yn yr ysbyty achos dydw i ddim yn gwybod beth fydden nhw'n dweud am hynny, ond os yw hynny'n wir, mae'n achos siom fawr."
Aeth ymlaen i ddweud fod ganddo bryderon mawr y gallai'r diffynnydd fod wedi achosi niwed i rywun arall neu iddo fe ei hun.
Clywodd y llys fod cymydog wedi mynd i nôl Hart o'r ysbyty a mynd ag e i Lanelli.
Yna, dychwelodd i Dreforys, lle cafodd ei arestio gan yr heddlu ddydd Mercher.
Bydd Hart yn cael ei ddedfrydu fore Gwener.
Wrth ymateb i feirniadaeth y barnwr, dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad eu bod "wedi ymateb ar unwaith" i'r mater, ac wedi ymchwilio'n fanwl i ddod o hyd iddo a'i arestio.
"Byddwn yn cydweithio â'n partneriaid am y pryderon a godwyd gan y barnwr."