Lle canolog i'r Gymraeg medd cyfarwyddwr Castell Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Jac Davies yn dweud bod y Gymraeg yn "rhan hanfodol" o'r castell

Mae Cyfarwyddwr newydd Castell Aberteifi wedi mynnu y bydd yna le canolog i'r Gymraeg a threftadaeth yn y castell yn y dyfodol.

Wrth siarad gyda Cymru Fyw, dywedod Jac Davies: "Mae'n hanfodol bwysig ac yn rhan o'r atyniad i ddod yma, safle'r Eisteddfod gyntaf... mi fyddai'n beth trist i beidio edrych ar hwnna wrth symud ymlaen."

Mr Davies yw'r trydydd person i lenwi swydd cyfarwyddwr y Castell mewn cyfnod o bum mlynedd.

Fe adawodd y Cyfarwyddwr blaenorol, Cris Tomos, yn dilyn ffrae gyda rhai o'r ymddiriedolwyr ynglŷn â'r weledigaeth ar gyfer Castell Aberteifi.

Gadawodd Steffan Crosby y swydd yn 2012 ar ôl cyfnod byr iawn yn y swydd.

Roedd rhai pobl leol yn cwyno nad oedd yna le digon blaenllaw i'r Gymraeg a threftadaeth a diwylliant lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Non Davies, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, yn dweud bod cydweithio yn "allweddol"

Mae gan Mr Davies gefndir yn y gwasanaeth sifil a rheoli gwestai. Yn fwy diweddar, bu'n reolwr cyffredinol gyda thîm rygbi'r gynghrair proffesiynol y London Skolars.

Cyn hynny, roedd yn brif swyddog gweithredol Canolfan Cymry Llundain.

'Angen datblygu twristiaeth'

Mae swydd cyfarwyddwr y castell yn cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri o dan gynllun arbennig i sicrhau cynaladwyedd y fenter.

Fe roddwyd cymhorthdal o £189,000 i'r castell ym mis Mehefin, wrth i'r castell symud o'r cyfnod pan oedd yr adeilad yn cael ei adfer i'r cyfnod gweithredol.

Fe fydd yr arian hefyd yn talu am gynlluniau eraill i sicrhau dyfodol hir dymor y castell.

Yn ôl Mr Davies, y brif her fydd sicrhau llwyddiant masnachol y castell wrth i'r cyfnod o dderbyn arian cyhoeddus ddirwyn i ben.

"Mae'n rhaid edrych ar ôl y Gymraeg ond mae angen datblygu diwydiant twristiaeth yn Aberteifi mewn perthynas gyda phartneriaid... mae'r castell yma bob diwrnod o'r flwyddyn... mae'n rhaid gwneud y defnydd mwyaf ohono."

Mae'n mynnu hefyd y bydd partneriaeth adeiladol gyda Bwrdd Ymddiriedolwyr Cadwgan, sy'n gyfrifol am Gastell Aberteifi: "Fel unrhyw fusnes, mae'n fater o waith tîm, mae'n bwysig i rannu'r awenau."

Yn ôl Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Non Davies, mae yna "bartneriaethau newydd i'w creu" ac mae "cydweithio yn allweddol i ddyfodol y prosiect".