Cedron Siôn o Wynedd yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel
- Cyhoeddwyd
Cedron Siôn o Borthmadog ydy enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2017., dolen allanol
Yn ogystal â'r Ysgoloriaeth, mae 'na wobr ariannol o £4,000 i'w defnyddio i ddatblygu ei dalent i'r dyfodol.
Mae Cedron ar fin mynd i astudio yn y Royal Central School of Speech and Drama yn Llundain ac mae â'i fryd ar ddilyn gyrfa fel actor proffesiynol.
Dywedodd wrth glywed y canlyniad yn Theatr Sony ym Mhenybont-ar-Ogwr: "Dydy fy nghoesau ddim wedi crynu cymaint ers tro."
Diolchodd i'r Urdd am y cyfle ac i'w deulu a'i ffrindiau am eu cefnogaeth.
Roedd ei raglen yn cynnwys detholiad o araith Sieiloc o ddrama Marsiandwr Fenis; detholiad o araith Sundance o ddrama Sundance; detholiad o araith Peilat o ddrama 'Iesu!'; a Tasa Ti'n Gweld Hi Drwy'n Llygad o'r sioe Cabaret.
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Eifion Wyn ac Ysgol Eifionydd, mae Cedron yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Rownd a Rownd. Fo oedd yn portreadu'r cymeriad Dewi.
Y pump arall oedd yn cystadlu eleni oedd:
John Ieuan Jones - Aelod Unigol, Cylch Bro Dulais;
Megan Llŷn - Aelwyd Llundain;
Harry Lovell Jones - Aelwyd Llundain;
Daniel Jones - Ysgol Gyfun Plasmawr;
Sioned Hâf Llywelyn - Aelwyd Crymych.
Cafodd y noson ei darlledu yn fyw ar S4C.