Chwech yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel

  • Cyhoeddwyd
Daniel Calan Jones, Harry Lovell-Jones, John Ieuan Jones, Sioned Llewelyn, Megan Llŷn, Cedron SiônFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Daniel Calan Jones, Harry Lovell-Jones, John Ieuan Jones, Sioned Llewelyn, Megan Llŷn a Cedron Siôn

Bydd chwech o berfformwyr ifanc mwyaf talentog Cymru yn cystadlu am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel nos Sadwrn.

Fe wnaeth panel o feirniaid ddewis y chwech roedden nhw'n ei gredu oedd fwyaf addawol o fewn y categori oedran hŷn o dan 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Delyth Medi, Sioned Terry, Eirlys Britton, Davinder Singh a Catherine Ayres oedd ar y panel dewis.

Yn ogystal â'r ysgoloriaeth, bydd yr enillydd yn cael gwobr ariannol o £4,000 i'w defnyddio er mwyn datblygu eu talent i'r dyfodol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Theatr Sony ym Mhen-y-bont nos Sadwrn.

Y cystadleuwyr

  • Daniel Calan Jones, o Gaerdydd, eisiau denu mwy o bobl at ddawnsio clocsiau;

  • Harry Lovell-Jones, o Gaerdydd, sydd eisiau gyrfa gyda cherddorfa broffesiynol;

  • John Ieuan Jones, o Fae Colwyn, eisiau bod yn berfformiwr;

  • Sioned Llywelyn, o Efailwen ger Clunderwen, eisiau bod yn gantores broffesiynol mewn operâu ysgafn a sioeau cerdd;

  • Megan Llŷn, o Sarn ger Pwllheli, sydd yn actores;

  • Cedron Siôn, o Borthmadog, sydd eisiau bod yn actor.