Hen Lyfrgell: Dim gwasanaeth Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
hen lyfrgell

Mae'r cwmni sy'n rhedeg caffi canolfan Gymraeg Yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd wedi ymddiheuro wedi cwyn nad oedd gwasanaeth Cymraeg ar gael yn y caffi yn gynharach yr wythnos hon.

Daeth cwyn am y diffyg gwasanaeth Cymraeg yn y caffi i sylw rhaglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru, wedi i gwsmer honni nad oedd yr un o staff caffi Llaeth a Siwgwr yng nghanol y ddinas yn medru'r Gymraeg ddydd Llun.

Fe agorwyd canolfan Gymraeg yn yr Hen Lyfrgell ym mis Chwefror 2016 gyda'r bwriad o fod yn ganolbwynt i fywyd Cymraeg y brifddinas.

Mae'r perchnogion wedi cadarnhau wrth BBC Cymru fod materion staffio ddydd llun wedi golygu nad oedd siaradwr Cymraeg ar gael i weithio y diwrnod hwnnw.

Ond mynnodd y cwmni eu bod nhw fel arfer yn gallu cynnig gwasanaeth dwyieithog, a bod nifer o'u staff yn siarad Cymraeg.

Fe ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni bod penodi staff yn her i'r sector arlwyo yn gyffredinol, ond eu bod yn parhau i fuddsoddi a phenodi rhagor o staff sy'n siarad Cymraeg.