'Rhwystredigaeth' am dorri 15% o wariant cefn gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae grwpiau amgylcheddol a chefn gwlad wedi dweud eu bod yn "rhwystredig ac yn grac" yn dilyn toriad o 15% i adran materion gwledig Llywodraeth Cymru.
Daeth beirniadaeth gan wyth sefydliad blaenllaw o'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2018-19.
Maen nhw'n honni bod "bwlch yn ymddangos" rhwng addewidion gweinidogion ar faterion amgylcheddol a'u gweithredoedd.
Mynnu bod y toriad yn efelychu arian sydd wedi'i symud at yr adran llywodraeth leol mae Llywodraeth Cymru.
Yr Amgylchedd a Materion Gwledig yw'r lleiaf o saith adran y llywodraeth yn nhermau'r cyllid y mae'n ei dderbyn, ond mae ei ddyletswyddau'n eang ac amrywiol.
Maen nhw'n cynnwys gweinyddu taliadau i ffermwyr, ariannu cynlluniau i ddiogelu iechyd anifeiliaid rhag clefydau fel TB mewn gwartheg, a strategaethau i hybu bwyd a diod Cymreig.
Mae gwarchod a rheoli amgylchedd a moroedd y wlad, atal llifogydd a mesurau i annog datblygiadau ynni gwyrdd a mynd i'r afael â newid hinsawdd oll yn rhan o waith yr adran hefyd.
Yn y gyllideb ddrafft, gafodd ei chyhoeddi yr wythnos ddiwethaf, fe ddosbarthwyd £243m i'r adran - toriad mewn termau real o £43m neu 15.27% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Roedd symud grant y mae cynghorau yn medru gwneud cais iddo ar gyfer cynlluniau amgylcheddol at y nawdd cyffredinol sy'n cael ei gynnig i awdurdodau lleol yn cyfrif am oddeutu £35m o'r newid hwnnw.
Mewn egwyddor mae modd i gynghorau ddefnyddio'r arian hwnnw fel y dymunan nhw bellach, yn hytrach na'i fod wedi'i dargedu'n benodol at yr amgylchedd.
'Pryderus'
Dywedodd Rebecca Williams, Cyfarwyddwr CLA Cymru - corff sy'n cynrychioli tirfeddianwyr, bod y toriad yn cynrychioli'r ucha' o ran canran y bydd unrhyw adain o'r llywodraeth yn ei wynebu.
"Mae'r ffigwr pennawd yna o 15% o ostyngiad yn bryderus, yn enwedig gan fod hon yn flwyddyn allweddol i'r economi wledig," meddai.
"Mae wir yn codi cwestiynau ynglŷn â blaenoriaethau gweinidogion Cymru a dyw e ddim yn anfon neges dda iawn at gefn gwlad."
Dweud eu bod nhw'n poeni y byddai gallu'r adran i ymateb i heriau a chyfleoedd Brexit yn "gwanhau" wnaeth undeb amaeth NFU Cymru.
Yn ôl yr RSPB, roedden nhw'n teimlo "rhwystredigaeth llwyr ac yn grac", tra bod Plantlife Cymru yn "siomedig ofnadwy" a'r Ymddiriedolaeth Pysgota'n disgrifio'r cyhoeddiad fel "newyddion dychrynllyd".
Cwestiynu mae eraill, gan gynnwys Coed Cadw a Chymdeithas Gadwraeth y Mâr, a fydd gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau sydd eu hangen i weithredu ei gyfreithiau ei hun gan gynnwys y Ddeddf Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
"Mae 'na fwlch fel petai'n ymddangos rhwng addewidion Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd a realiti'r hyn sy'n digwydd," meddai Anne Meikle, pennaeth WWF Cymru.
'Penderfyniadau anodd'
Ond dadlau bod gweinidogion yn wynebu "penderfyniadau anodd iawn" mae Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.
"Does gan Lywodraeth Cymru ddim llawer o le i symud," meddai.
"Mae'u gwariant cyffredinol nhw o ddydd i ddydd yn mynd i gwympo dros y ddwy flynedd nesa' felly mae cynyddu gwariant ar iechyd - sy' bron yn hanner y gyllideb - yn mynd i arwain at fwy o doriadau a mwy o bwysau ar ardaloedd eraill fel yr amgylchedd a datblygu economaidd."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r gostyngiadau i gyllideb yr adran amgylchedd a materion gwledig yn efelychu symud £35m o'r Grant Refeniw Unigol ar gyfer yr Amgylchedd i'r grant refeniw sy'n cefnogi llywodraeth leol.
"O gymryd hyn i ystyriaeth, mae'r toriad i gyllideb refeniw yr amgylchedd a materion gwledig yn 2018-19 yn 1.55%."
Tra bod gan gynghorau'r rhyddid i ddefnyddio'r Grant Refeniw Unigol fel y dymunan nhw, mae'r arian ar hyn o bryd yn gysylltiedig â'u helpu nhw i gyrraedd targedau statudol ynglŷn ag ailgylchu.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae llai o risg y byddai'r arian yn cael ei wario ar bethau eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2017