Cyflogau graddedigion Cymru yw'r 'isaf yn y DU'

  • Cyhoeddwyd
Graddio

Graddedigion o brifysgolion Cymru sy'n ennill y cyflogau isaf yn y DU ar gyfartaledd, yn ôl arolwg newydd.

Mae bron i draean o'r rheiny mewn swyddi llawn amser yn ennill llai na £21,000 dair blynedd a hanner ar ôl gadael prifysgolion Cymru.

Mae arolwg Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos mai 21.2% o raddedigion prifysgolion Lloegr sydd yn yr un sefyllfa.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn adlewyrchu lefelau cyflog yma, a bod cyfraddau cyflogaeth o brifysgolion Cymru yn "gryf iawn".

Fe wnaeth tua 5,000 o'r 15,000 o raddedigion o brifysgolion Cymru ymateb i'r arolwg - tua 39% ohonynt.

Mae'r adroddiad yn dweud bod 67.6% o raddedigion 2012/13 o brifysgolion Cymru yn ennill mwy na £21,000 y flwyddyn - y lefel ble mae'n rhaid dechrau talu benthyciadau myfyrwyr yn ôl.

Fe wnaeth 78.8% o raddedigion prifysgolion Lloegr ennill cyflogau dros y lefel yma. 78.2% oedd y ffigwr ar gyfer Yr Alban, a 69.1% i Ogledd Iwerddon.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos mai 80.8% o raddedigion o brifysgolion Cymru oedd mewn cyflogaeth ar ôl tair blynedd a hanner - ychydig yn llai na'r 81.8% yn Lloegr.

'Dim syndod'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Darren Millar: "Dan Lafur, mae gan Gymru'r cyflogau isaf yn y DU, felly dyw hi ddim yn syndod bod graddedigion Cymreig yn cael eu talu'n is na mewn llefydd eraill.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r sector breifat i gynyddu nifer y swyddi cyflog uchel y mae ein graddedigion eu hangen, neu bydd rhannau eraill o'r DU yn parhau i ddenu'r goreuon oddi yma."

Cafodd pryderon eu codi ym mis Awst bod mwy o raddedigion wedi gadael Cymru na'r nifer gyrhaeddodd yma rhwng 2013 a 2016.

Wrth ymateb i'r arolwg, dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddo "faint sampl bychan".

Ychwanegodd llefarydd: "Yn ogystal ag adlewyrchu lefelau cyflog, sy'n ddealladwy yn is na rhannau mwy llewyrchus o'r DU, mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod cyfraddau cyflogaeth i raddedigion yng Nghymru yn gryf iawn a bod mwy na hanner ohonynt yn dewis aros yma ar ôl graddio."