Ateb y Galw: Rhys ap William
- Cyhoeddwyd

Tro'r actor a chyhoeddwr Stadiwm Principality, Rhys ap William, yw hi i Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Aled Samuel wythnos diwetha'.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Bod mewn buggy yn mynd ar draws y bont dros yr afon Llynfell gyda Mamgu Dowen.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Pamela Anderson a Julia Roberts, ac ambell athrawes ysgol...
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi'n cofio troi lan yn y lle anghywir ar gyfer y cyfweliad anghywir, ac wedyn 'di rhedeg ar draws y ddinas i'r lleoliad iawn, ond i ddarganfod bo' fi dal 'di paratoi ar gyfer y cyfweliad rong! Sbesial!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n crïo'n ddyddiol ers i fi gael plant! Gwylio Magi yn mynd i'r ysgol oedd y tro diwetha', mae'n siŵr.

Mae bywyd Rhys a'i wraig Lucy wedi newid cryn dipyn ers cael Magi yn 2014, yna'r efeilliaid Esme a Henri y flwyddyn ganlynol
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gofynnwch i'r wraig! Lot ohonyn nhw: ffysan, canu drwy'r amser, siarad yn uchel ar y ffôn...!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ar ben mynydd Tyle Pen Lan yn edrych lawr ar Gwmllynfell - un o'r pridd 'na y' fi - unman yn debyg i adre.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Pwy sy'n darllen hwn? Ha! Grand Slam 2008!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Cymro i'r carn!
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Y Total Recall cyntaf, oherwydd Arnold!

Mae'n siŵr nad Rhys yw'r unig un wnaeth fwynhau buddugoliaeth Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2008!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Fy nau dadcu - nes i ddim cwrdd â Walter a sai'n cofio Cyril.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fi yw'r bachgen bach ar ddechrau'r ffilm Steddfod Steddfod!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bod gyda'r teulu yn byta cinio dydd Sul.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Thunderball gan Tom Jones - jest gwrandewch ar y nodyn ola' 'na!

Mae Rhys yn ffan o lais anhygoel y canwr o Bontypridd
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Scallops / cinio cig eidion / hufen iâ Joe's Abertawe.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Y wraig er mwyn gweld os yw hi'n iawn am yr holl bethau fi'n 'neud yn anghywir!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Carwyn Glyn