Newid rheol carfan Cymru i chwaraewyr o glybiau tramor

  • Cyhoeddwyd
Rhys WebbFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 28 cap dros Gymru sydd gan Rhys Webb, fydd yn chwarae yn Ffrainc y tymor nesaf

Fydd y mewnwr Rhys Webb ddim yn medru chwarae dros Gymru'r tymor nesaf yn ôl rheolau newydd am ddewis chwaraewyr o glybiau tramor.

Yn y dyfodol, fe fydd yn rhaid i chwaraewyr sy'n arwyddo i glwb tu allan i Gymru fod wedi cael 60 cap i gael chwarae dros y wlad.

Fydd chwaraewyr sydd eisoes yn chwarae dramor yn cael eu heithrio rhag y rheol - ond nid y rhai sydd wedi arwyddo cytundeb newydd ar gyfer tymor 2017-18.

Un o'r rheiny ydy Webb, sydd â 28 cap ac sydd wedi cytuno i arwyddo i Toulon o'r Gweilch.

Gallai'r rheol hefyd effeithio ar y maswr Dan Biggar, fydd yn symud o'r Gweilch i Northampton ddiwedd y tymor. Ar hyn o bryd 56 cap sydd ganddo, ond mae disgwyl iddo gyrraedd y 60 cyn diwedd y tymor hwn.

line

Newid rheol - pwy sydd ar eu colled? Dadansoddiad gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Cennydd Davies

O heddi' ymlaen dim ond chwaraewyr sydd eisoes wedi ennill 60 cap rhyngwladol fydd yn rhydd i symud i glybiau yn Ffrainc neu Loegr.

Gan nad oedd y rheol mewn grym cyn i Liam Williams arwyddo i'r Saracens y llynedd, dyw'r cefnwr ddim wedi'i effeithio gan y newid.

Mae sefyllfa Rhys Webb yn wahanol. Mae'r mewnwr newydd arwyddo cytundeb tair blynedd ag un o gewri Ffrainc, Toulon. Gan mai 28 cap yn unig sydd ganddo, fyddai ddim o dan y rheol newydd yn cael ei ystyried ar gyfer y tîm rhyngwladol.

Liam Williams (blaen) a George North (cefndir)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cadw'r sêr yng Nghymru ydy bwriad y rheol - ond mae Liam Williams (blaen) a George North (cefndir) yn chwarae dros y ffin yn Lloegr

Mae system debyg eisoes yn bodoli yn Awstralia a'r nod yw sicrhau bod Cymru yn dal ei gafael ar sêr y dyfodol. Ar yr olwg gyntaf, rhaid canmol Undeb Rygbi Cymru (URC) am weithredu, ond amser a ddengys a fydd polisi o'r fath yn llwyddo yn y pen draw - yn enwedig o glywed cadeirydd yr undeb yn sôn am yr esgid yn gwasgu'n ariannol dros y blynyddoedd nesaf.

Mae gyrfa chwaraewr proffesiynol yn fyr a'r ysfa i feddwl am eu dyfodol, wrth reswm, yn ddigon naturiol. Y gobaith yw bydd yr ysfa i ennill capiau rhyngwladol hyd yn oed yn fwy.

line

O dan y rheol flaenorol - oedd yn cael ei hadnabod fel Rheol Gatland - dim ond pedwar chwaraewr o'r tu allan i Gymru oedd yn medru cael eu henwi yng ngharfan y tîm cenedlaethol.

Mae'r newidiadau'n golygu bod gan Gymru system debyg i'r hyn sydd ar waith yn Awstralia.

Wrth gyhoeddi'r newid ddydd Llun, dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips, roedd angen "symleiddio" y rheolau gan fod y polisi blaenorol "wedi gweithio i ryw raddau ond ddim digon da".