Anafiadau babi fu farw yn 'anarferol iawn'
- Cyhoeddwyd
Roedd babi yr honnir iddi gael ei lladd gan ei thad wedi dioddef toriadau "anarferol iawn" i'w choesau, yn ôl doctor welodd ei hanafiadau.
Bu farw Elsie Scully-Hicks, 18 mis oed, yn Ysbyty Athrofaol Cymru o anafiadau difrifol ym mis Mai 2016.
Mae ei thad mabwysiedig, Matthew Scully-Hicks, 31 oed ac yn wreiddiol o Delabole yng Nghernyw, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Dywedodd Dr Sarah Harrison, sy'n radiolegydd pediatrig, bod anafiadau Elsie yn rhai y byddai'n disgwyl ei weld mewn person oedd wedi dioddef "trawma sylweddol".
'Toriadau prin'
Fe welodd Dr Harrison anafiadau Elsie ar ôl ei marwolaeth, a dywedodd nad oedden nhw'n cyd-fynd â stori Mr Scully-Hicks ei bod wedi disgyn.
Dywedodd wrth Lys y Goron Caerdydd bod ei choes dde wedi torri mewn dau le, a bod yr anafiadau "y math y byddwn yn disgwyl eu gweld pe bai rhywun wedi disgyn a chael anafiadau difrifol".
"Mae'n eithaf anarferol torri dau asgwrn gwahanol pe bai rhywun yn disgyn drosodd," meddai.
Dywedodd Paul Lewis ar ran yr erlyniad bod Mr Scully-Hicks yn honni bod Elsie wedi disgyn i'r llawr tra'n sefyll, a gofynnodd i Dr Harrison a fyddai digwyddiad o'r fath yn achosi'r anafiadau a welwyd.
"Os yw plentyn yn disgyn tra'n sefyll yn llonydd, byddwn yn gweld toriadau eithaf gwahanol i'r rhai wnaeth Elsie ddioddef," meddai Dr Harrison.
"Byddwn yn disgwyl i'r plentyn fod yn rhedeg neu'n symud yn gyflym cyn disgyn, gyda mwy o rym nac o sefyll.
"Mae'r toriadau yma i blentyn sydd ddim yn symud yn eithaf prin. Mae'n anarferol iawn i mi weld y toriadau yma heb hanes o drawma sylweddol."
'Tebyg i wrthdrawiad'
Ychwanegodd bod yr anafiadau'n debyg i rai y byddai'n disgwyl eu gweld mewn gwrthdrawiad ffordd, ac nad oedd hi erioed wedi gweld anafiadau o'r fath i blentyn yn ei gyrfa 20 mlynedd.
Bu farw Elsie ar 29 Mai, 2016, pythefnos ar ôl iddi gael ei mabwysiadu yn swyddogol.
Roedd hi wedi bod yng ngofal Mr Scully-Hicks a'i ŵr, Craig, am wyth mis cyn hynny, ac yn y cyfnod hwn roedd wedi cael rhai anafiadau difrifol gan gynnwys torri ei ffêr a syrthio i lawr grisiau.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017