Achos llofruddiaeth: Cyhuddo tad o 'ymddygiad anarferol'
- Cyhoeddwyd
Mae achos llofruddiaeth wedi clywed fod dyn 31 oed yn ymddangos yn "anarferol o dawel a digynnwrf" pan oedd meddygon yn ceisio achub bywyd ei ferch fabwysiedig.
Bu farw Elsie Scully-Hicks, 18 mis oed, yn Ysbyty Athrofaol Cymru o anafiadau difrifol ym mis Mai 2016.
Mae Matthew Scully-Hicks, yn wreiddiol o Delabole yng Nghernyw, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Ddydd Gwener dywedodd ymgynghorydd pediatryddol, Dr David Tuthill, wrth Lys y Goron Caerdydd fod ymddygiad y dyn wedi ei daro fel "rhywbeth anarferol iawn".
Dywedodd ei fod yn cofio fod gŵr Mr Scully-Hicks, Craig, yn "hynod o ddagreuol ac ypset" ond ychwanegodd: "Fy nghof ohono ef [Mr Scully-Hicks] yw o fod yn hynod o ddigynnwrf."
Lluniau cyntaf
Dywedodd: "Wrth i mi ddod yn ôl i'r adran gofal dwys fe wnes i sôn wrth nyrs gan ddweud: 'Roedd hynny'n rhyfedd - roedd o'n ddigynnwrf'.
"Yn y rhan fwyaf o achosion hyn, mae pobl yn eu dagrau. Mae rhieni fel arfer yn hynod o ddagreuol.
"Roedd yn fy nharo i yn anarferol... roedd yn rhyfedd a ddim yn arferol."
Ychwanegodd: "Mae pobl yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol. Y ffordd gyffredin pan mae eich plentyn mewn sefyllfa o'r fath ac yn marw o'ch blaen yw i grio."
Ddydd Gwener fe wnaeth y barnwr ganiatáu i'r lluniau cyngaf o Elsie i gael eu cyhoeddi gan y wasg.
Bu farw Elsie ar 29 Mai, 2016, pythefnos ar ôl iddi gael ei mabwysiadu yn swyddogol.
Roedd hi wedi bod yng ngofal y cwpl am wyth mis cyn hynny, ac yn y cyfnod hwn roedd wedi cael rhai anafiadau difrifol gan gynnwys torri ei ffêr a syrthio i lawr grisiau.
Dywedodd Mr Scully-Hicks fod Elsie wedi syrthio i lawr y grisiau ar 10 Mawrth ar ôl i giât ar ben y grisiau agor drwy ddamwain wrth i'r ferch roi ei phwysau arno.
Clywodd y llys fod Elsie wedi cyfogi tair gwaith ar ôl syrthio, ond na chafodd hi sgan CT, ac fe gafodd ei rhyddhau o'r ysbyty bedair awr yn ddiweddarach.
Fe wnaeth profion meddygol cyn iddi farw ddangos ei bod wedi diodde' gwaedlif i'r ymennydd.
'Clywed gweiddi a rhegi'
Fe wnaeth archwiliad post mortem ddatgelu ei bod hefyd wedi torri ei hasennau, ei choes a'i phenglog.
Mae'r achos hefyd wedi clywed gan gymydog i Mr Scully-Hicks bod y diffynnydd wedi gweiddi a rhegi ar y plentyn.
Dywedodd Jonathan Rees, ar ran y diffynnydd, fod Mr Scully-Hicks yn derbyn iddo godi ei lais ond mae'n gwadu iddo regi.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2017