Cwmderi: Pwy yw'r cewri?
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ohonyn nhw bron mor gyfarwydd i rai ohonoch chi a'ch teuluoedd eich hunain, ond pwy yw cymeriadau mwyaf chwedlonol Pobol y Cwm?
Ers 1974 mae nifer o gymeriadau wedi byw a gweithio yng Nghwmderi - rhai ohonyn nhw yn lliwgar, ambell un dadleuol ac un neu ddau digon hoffus hefyd!
Bu criw cynhyrchu Cewri Cwmderi yn casglu barn gwylwyr S4C am y cymeriadau sydd wedi creu'r argraff fwyaf dros y pedwar degawd diwethaf. Dyma i chi'r deg uchaf gan ddechrau efo rhif 10...
10. Reg a Megan
Roedd Reg (Huw Ceredig) a Megan (Elizabeth Miles) yn cadw tafarn y Deri Arms gyda'i gilydd am flynyddoedd felly roedden nhw yn gymeriadau wrth galon y gymuned.
Yn ddiweddarach fe wnaethon nhw ysgaru a bu farw Reg yn 2003. Mae Megan yn dal i fyw yn y pentref a digon o amser ar ei dwylo i fusnesu!
9. Dic Deryn
Fel mae ei enw yn awgrymu roedd Dic yn dipyn o... dderyn! Roedd Dic Ashurst (Ifan Huw Dafydd) yn ddyn busnes lliwgar ac yn ddyn gwyllt mewn mwy nac un ystyr.
Mi geisiodd newid ei ffyrdd ar ôl priodi Carol Gwyther (Rhian Morgan) ond fel y bydd nifer ohonoch chi wedi sylwi nid Carol yw honna sydd yn y gwely gydag e ond Lisa (Beth Robert)! O leia' bu gan drigolion eraill y Cwm ddigon i'w drafod dros far y Deri.
8. Sioned Charles
Sioned (Emily Tucker) yw un o'r wynebau mwyaf newydd yn y rhestr. Mae hi wedi creu argraff fawr ers symud i Gwmderi o Aberystwyth.
Roedd hi'n fwli yn y dyddiau cynnar pan roedd hi'n gwneud bywyd Lois (Mirain Jones) yn hunllef. Dim Lois ydy'r unig un i ddiodde'. Yn ddiweddar bu hi'n camdrin ei gŵr Ed (Geraint Todd) yn gorfforol a seicolegol.
7. Denzil
Roedd Denzil (Gwyn Elfyn) ymhlith rhai o gymeriadau hoffus y Cwm. Bu'n gweithio yn y dyddiau cynnar gyda Dic Deryn ar y 'lori gaca'.
Bu'n ffermio yn Penrhewl yn ddiweddarach gyda'i wraig Eileen (Sera Cracroft). Ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'r gwaith hwnnw ar ôl anafu ei gefn mewn damwain ddifrifol ac fe brynodd siop y pentre gyda'r arian yswiriant.
Chwalodd ei briodas ar ôl i'w mab John farw yn y crud yn 1993. Gadawodd Denzil y gyfres yn 2012 pan fu farw ar un o strydoedd y Cwm ar ôl mynd i brynu peint o laeth.
6. Meic Pierce
'Chydig o 'hogyn drwg' oedd y ffotograffydd o Sir Fôn pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwmderi yn 1975 ond erbyn iddo adael y gyfres ar ôl 40 mlynedd (ie, pedwar deg!) roedd Meic Pierce (Gareth Lewis) yn ddyn busnes uchel ei barch.
Am flynyddoedd bu'n rhedeg y caffi, buodd yn gwerthu cŵn poeth yn aflwyddiannus gyda Denzil a bu'n ddyn tacsi. Gyda'i ail wraig Anita (Nia Caron) daeth i redeg y Deri. Fe losgodd y dafarn i'r llawr yn ystod ei gyfnod yno - fel nifer o'i fentrau eraill! Gadawodd y Cwm yn 2015 ar ôl clywed ei fod yn marw o ganser.
5. Teulu'r Jonesiaid - Kath, Dyff, Mark, Stacey
Roedd y Jonesiaid ymhlith teuluoedd mwyaf lliwgar Cwmderi ac roedd Dyff (Dewi Rhys) neu 'Mark ni' (Arwyn Davies) ymhlith y cyntaf dan amheuaeth os oedd yna ddrwg yn y caws.
Cafodd Dyff ei ladd mewn sgarmes ac ers dod yn bostmon fe geisiodd Mark aeddfedu rhyw gymaint... ond ddim lot! Mae Kath Jones (Siw Hughes) yn ddynes di-flewyn ar dafod a dweud y lleiaf ac wastad yn barod i amddiffyn ei mab: "Nage Mark ni wna'th e, reit!" Merch dawel yw Stacey (Shelley Rees) mewn cymhariaeth ond fe gododd hi wrychyn nifer o'r pentrefwyr pan gafodd hi berthynas gyda'i hathro Hywel Llywelyn (Andrew Teilo) tra dal yn yr ysgol.
4. Dai Sgaffalde a Diane
Fel mae ei lysenw yn awgrymu, adeiladwr ydy Dai Ashurst (Emyr Wyn). Fel ei frawd Dic Deryn mae Dai hefyd yn un prin ei amynedd a dyna pam y welwn ni'r gwreichion yn tasgu yn bur aml yn y berthynas rhyngddo a'i wraig Diane (Victoria Plucknett).
Ond, trwy gicio a brathu mae cariad yn magu medden nhw, a dyna yw apêl y berthynas gadarn rhwng y ddau benboeth yma i filoedd o wylwyr.
3. Jean McGurk
Gwneud bywoliaeth trwy werthu sgrap oedd Jean McGurk (Iola Gregory) pan ddaeth hi i'r Cwm yn gyntaf. Ar ôl treulio cyfnod yn y carchar am achosi damwain ddifrifol symudodd i stad dai cyngor Maes y Deri gyda'i merch Kirstie (Catherine Tregenna).
Daeth Glan Morris (Cadfan Roberts) i fyw ati fel lojer ond yn fuan iawn roedd y ddau'n gariadon. Priododd y ddau yn 1991 er mwyn i Mrs Mac osgoi trafferthion gyda chwmni yswiriant. Yn ddiweddarach daeth y cwpl yn berchnogion ar y Deri ac fe gawson nhw blentyn, Daniel. Ond fel hanes sawl cymeriad mewn operau sebon, prin iawn oedd y llawenydd a bu farw Glan o ganser yn 1996.
Cafodd Mrs Mac berthynas gyda Duff am gyfnod cyn symud i Sbaen i fyw.
2. Garry Monk
Does 'na ddim llawer o bethau positif y gallwn ni eu dweud am Garry Monk (Richard Lynch). Mae drygioni yn llifo trwy ei wythiennau ond mae'n meddwl y byd o'i fab! Faint ydych chi yn wybod am gangster Cwmderi? Rhowch gynnig ar y cwis:
Ac ar y brig...
1. Magi Post
Ers ymddangos yn yr olygfa gyntaf un yn 1974 roedd hi'n amlwg bod Magi Post (Harriet Lewis) yn dipyn o gymeriad. Tros gownter siop y pentre' roedd hi'n clywed cyfrinachau pawb o Gwmderi i Lanarthur ac mewn byr amser byddai'r newyddion wedi lledu i bob cwr!
Yn y dyddiau cynnar bu'n rhoi cyngor amserol i Sabrina (Gillian Elisa) oedd yn gweithio gyda hi yn y siop ac yn ddiweddarach magodd berthynas agos gyda Mr Tushingham (Islwyn Morris), un o selogion cartre' hen bobl Bryn Awelon. Er bod ei hel clecs cyson yn tynnu blewyn o drwyn ambell un o'r pentrfwyr roedd Magi yn gymeriad annwyl a chynnes. I nifer mae hi yn dal i gael ei chydnabod heddiw fel 'Mam Pobol y Cwm'.