Llywodraeth yn datgelu mwy o fanylion y gyllideb ddrafft

  • Cyhoeddwyd
MoneyFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd manylion llawn cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi brynhawn dydd Mawrth.

Fe gafodd y manylion bras eu rhyddhau tair wythnos yn ôl, gan gynnwys cynnydd o 1% yn uwch na chwyddiant yng nghyllideb y gwasanaeth iechyd, ond toriadau o tua 2% i gynghorau.

Bydd toriadau hefyd i wariant ar yr economi ac isadeiledd, yn ogystal â 5% yn llai i adrannau gweinyddu, a 2% yn llai i addysg.

Bydd adran yr amgylchedd hefyd yn gweld toriad o 15%, ond dywed y llywodraeth fod newidiadau i'r adran yn golygu mai awdurdodau lleol sydd nawr yn gyfrifol am ariannu rhai o'r dyletswyddau.

Ffynhonnell y llun, BBC/Getty Images

Yn y Senedd fe fydd gweinidogion yn datgelu mwy o fanylion am y toriadau a'r meysydd hynny lle bydd mwy o arian ar gael.

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd £50m yn cael ei wario ar brosiectau cyfalaf ym maes addysg uwch ac addysg bellach, tra bydd £260m yn cael ei roi ar gyfer creu prentisiaethau newydd dros gyfnod o ddwy flynedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams: "Bydd ein buddsoddiad o £50m ar gyfer y sectorau addysg uwch a phellach yn caniatáu iddynt gael y cyfleusterau gorau, bydd yn gwella ansawdd y dysgu a hefyd yn cwrdd ag anghenion cyflogwyr lleol.

"Mae'r buddsoddiad yn angenrheidiol ar gyfer y myfyrwyr a'r economi ehangach."

Wrth gyfeirio at y buddsoddiad mewn prentisiaethau dywedodd Julie James, Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth: "Rydym eisoes wedi cyflwyno un o'r rhaglenni prentisiaeth mwyaf lwyddiannus yn Ewrop - fe fydd y buddsoddiad o £260m dros y ddwy flynedd nesaf yn adeiladu ar y llwyddiant ac yn ein galluogi i gwrdd â'n hymroddiad i greu 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod oes y Cynulliad presennol.