Gwobrwyo tref Arberth am ei chroeso i ffoaduriaid
- Cyhoeddwyd
Mae tref farchnad yn Sir Benfro wedi ennill gwobr arbennig oherwydd caredigrwydd bobl leol wrth gynnig lloches i ffoaduriaid.
Roedd cynrychiolwyr o Arberth yn dathlu nos Fawrth wrth dderbyn y wobr Hawliau Dynol gan fudiad Liberty - gwobr sy'n cael ei chyflwyno er cof am y diweddar aelod seneddol Jo Cox.
Cafodd y tlws ei gyflwyno i drigolion Arberth ar ôl iddyn nhw lansio mudiad Croeso Arberth ym Mehefin 2016 - grŵp sy'n croesawu teuluoedd ffoaduriaid i'r ardal yn ne Penfro.
Dywedodd Jill Simpson, aelod o Croeso Arberth : "Fe ddaeth y teulu i'n hardal ym mis Gorffennaf. Roedd hi wedi bod yn ymgyrch hir i gyrraedd y nod, drwy gasglu arian a gwneud ceisiadau i'r Swyddfa Gartref a delio gyda'r awdurdod lleol.
"Ar adegau roedd hi'n anodd, mae'r rhan fwyaf ohonom wedi ymddeol, a rhai yn dal i weithio, ond pawb yn gwneud yn siŵr bod yna amser er mwyn sicrhau cartref diogel - sef y gwrthwyneb i sefyllfa pobl sy'n byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid."
Fe lwyddodd y grŵp i godi digon o arian i ofalu am deulu o Syria, ac maen nhw nawr yn gobeithio rhoi help llaw i ddau deulu arall.
Cafodd y grŵp eu henwebu gan aelodau'r cyhoedd.
Ychwanegodd Ms Simpson: "Mae hwn yn glod nid yn unig i Croeso Arberth ond hefyd i dre Arberth - y gymuned gyfan a hefyd i'r holl ffoaduriaid a phobl sy'n helpu pobl eraill. Mae'n wobr i'r rhai sy'n dangos trugaredd.
Cafodd y wobr ei chyflwyno gan Kim Leadbeater, chwaer Jo Cox a hynny mewn partneriaeth gyda Sefydlid Jo Cox mewn seremoni yn Theatr Royal Court, Llundain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2017