Achos llofruddiaeth: Tad yn gwadu achosi anafiadau babi
- Cyhoeddwyd
Mae tad sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio ei ferch fach fabwysiedig wedi gwadu achosi anafiadau iddi.
Roedd Matthew Scully-Hicks, 31, yn rhoi tystiolaeth ar ddechrau ei amddiffyniad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.
Bu farw Elsie Scully-Hicks yn yr ysbyty yng Nghaerdydd ym mis Mai 2016, pythefnos wedi iddi gael ei mabwysiadu'n swyddogol gan Mr Scully-Hicks a'i ŵr Craig.
Clywodd y llys bod Elsie wedi torri ei choes mewn dau le ym mis Tachwedd 2015 a'i bod wedi dioddef anaf i'w phen fis yn ddiweddarach.
'Dim pryder'
Mae Mr Scully-Hicks yn gwadu achosi'r anafiadau, gan ddweud mai disgyn wnaeth y ferch pan dorrodd ei choes.
Ychwanegodd mai drwy daro ei phen yn y gegin y cafodd anafiadau mis Rhagfyr eu hachosi.
Dywedodd nad oedd wedi mynd at ddoctor neu'r ysbyty ar ôl y digwyddiad hwnnw am nad oedd wedi sylweddoli ar unrhyw wahaniaeth yn ei hymddygiad.
"Roedden ni'n teimlo bod Elsie yn iawn. Doedd dim wedi achosi pryder i ni, briw oedd e," meddai.
Clywodd y rheithgor ddechrau'r wythnos bod anafiadau Elsie yn "debyg iawn" i fabanod sydd wedi cael eu hysgwyd.
'Nid fi sydd ar fai'
Yn cael ei groesholi gan yr erlyniad, dywedodd Mr Scully-Hicks nad oedd yn gwybod sut y cafodd Elsie yr anafiadau wnaeth arwain at ei marwolaeth.
Gofynnwyd iddo a oedd ganddo unrhyw eglurhad am sut wnaeth ei ferch dorri ei phenglog a chael anafiadau i'w hymennydd a'i llygaid, a'i ateb oedd "Na".
Pan ofynnwyd iddo os y gallai ef fod yn gyfrifol am achosi'r anafiadau, dywedodd: "Nid fi sydd ar fai".
Fe wnaeth Mr Scully-Hicks hefyd wadu defnyddio iaith anweddus wrth siarad â'i ferch, gan ddweud: "Fyddwn i byth yn gwneud hynny."
Mae'r llys eisoes wedi clywed tystiolaeth gan gymdogion sy'n dweud iddyn nhw glywed Mr Scully-Hicks yn gweiddi a rhegi ar Elsie.
Roedd Mr Scully-Hicks yn ei ddagrau wrth ddisgrifio ei ferch, oedd yn 18 mis oed pan fu farw.
Dywedodd ei bod yn "ferch fach hapus, oedd wastad â gwen ar ei hwyneb".
Ychwanegodd ei fod ef a'i ŵr wedi trafod dechrau teulu "yn eithaf cynnar yn y berthynas".
"Roedden ni'n dau yn gwybod ein bod eisiau plant - roedd yn rhywbeth y gwnaethon ni gytuno arno ar y dechrau," meddai.
Clywodd y llys bod Mr Scully-Hicks â phrofiad o ofalu am ei nithoedd a bod ganddo dystysgrif gofalu am blant o'i hen swydd mewn Canolfan Hamdden.
Mae Mr Scully-Hicks yn gwadu cam-drin Elsie dros gyfnod o fisoedd ac achosi anafiadau "catastroffig" iddi ar 25 Mai cyn iddi farw pedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2017