May yn amharod i ddweud 'fawr ddim' am Brexit medd Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Theresa May yn amharod i ddweud "fawr ddim" ynglŷn â Brexit medd Carwyn Jones.
Roedd Prif Weinidog Cymru yn siarad ar ôl i'r ddau gwrdd yn Downing Street ddydd Llun.
Tra bod Mr Jones eisiau i Brydain aros yn rhan o farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd mae Mrs May wedi dweud nad yw hyn yn bosib.
Ond fe ddywedodd ef fod yna symudiad ymlaen wedi bod yn y ddadl ynglŷn â'r ddeddf arfaethedig ar Brexit.
Gwrthwynebu'r bil
Pythefnos yn ôl cafwyd cyfarfod rhwng gweinidogion llywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban - y tro cyntaf i'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion gyfarfod ers mis Chwefror.
Yn dilyn y cyfarfod hwnnw yn San Steffan, dywedodd dirprwy Theresa May fod y trafodaethau rhwng llywodraethau'r DU a Chymru wedi cymryd "cam sylweddol ymlaen".
Ychwanegodd Damian Green fod "unrhyw sôn am gipio pwerau y tu cefn i ni bellach".
Ond mae llywodraethau Cymru a'r Alban yn dal i honni fod y ddeddfwriaeth sydd wedi'i gynnig ar gyfer trosglwyddo deddfau'r UE i'r DU yn mynd i fod yn cymryd pwerau oddi ar y gwledydd datganoledig.
Mae'n debyg mai Downing Street wnaeth gysylltu â Llywodraeth Cymru i drefnu'r cyfarfod, oedd hefyd yn cynnwys Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.
Dywedodd Carwyn Jones: "Mae cynnydd wedi cael ei wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod yna gytuno ar y ffordd ymlaen, ac nid jest gosodiad.
"Ond mae angen i'r cynnydd hynny barhau. Dydyn ni ddim eto mewn sefyllfa i allu cefnogi'r ddeddf.
"Mae angen i'r ddeddf newid fel bod y geiriau cynnes rydyn ni yn clywed yn cael eu hadlewyrchu yn y ddeddf, ac mae hynny'n golygu bod pwerau sydd fod dod i Gymru yn cyrraedd."
Dweud 'fawr ddim'
Gofynnwyd iddo a oedd o'n teimlo bod Mrs May yn dechrau edrych eto ar fater y farchnad sengl a dywedodd Mr Jones: "Dyw hi'n dweud fawr ddim...
"Yn fy nhyb i does dim angen i ni adael yr undeb dollau.
"Doedd neb yn dadlau yn ystod refferendwm Brexit y dylen ni gael sefyllfa sydd yn fwy cymhleth ar gyfer ein busnesau i werthu yn ei marchnad fwyaf.
"Mae angen i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth Prydain yn osgoi hynny, fyddai yn hunllef i ni."
Un peth am y Bil Ymadael â'r UE mae Llywodraeth Cymru a'r Alban yn anhapus yn ei gylch yw y byddai pwerau dros feysydd fel ffermio a physgota, sydd ar hyn o bryd yn cael eu rhedeg o Gaerdydd a Holyrood, yn cael eu trosglwyddo i San Steffan gyntaf.
Roedd gweinidogion y ddwy lywodraeth wedi cytuno byddai "fframweithiau cyffredin" yn cael eu sefydlu er mwyn sicrhau bod marchnad fewnol y DU yn gweithio ar ôl Brexit.
Ond dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford nad oedd hynny'n golygu "ein bod ni wedi camu nôl o gwbl yn ein gwrthwynebiad i'r Bil Ymadael".
Bydd y drafodaeth nesaf ar y bil yn cael ei chynnal yn Nhŷ'r Cyffredin ar 14 Tachwedd.
Yn ystod y cyfarfod ddydd Llun fe wnaeth Mr Jones hefyd drafod y pwnc aflonyddu rhywiol gyda Theresa May yn dilyn honiadau o'r fath ynglŷn ag Aelodau Seneddol yn San Steffan.