Elusen yn rhybuddio am ddiffyg cymorth i ofalwyr hŷn
- Cyhoeddwyd
Mae gofalwyr hŷn yn cael trafferth derbyn yr help a'r gefnogaeth maen nhw ei angen, yn ôl adroddiad.
Yn ôl Age Cymru, dydy gofalwyr mewn rhai ardaloedd ddim yn cael eu hasesu, ac felly ddim yn medru cael gwasanaethau a chefnogaeth.
Mae'r adroddiad yn awgrymu bod gwahaniaethau mawr rhwng gwahanol gynghorau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ailystyried y ddeddfwriaeth Gymreig ar wasanaethau cyhoeddus i roi cefnogaeth i ofalwyr hŷn.
Hawliau penodol i ofalwyr
Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd 370,000 o bobl Cymru yn ofalwyr - gyda 90,000 o'r rheiny'n hŷn na 65. Dyma'r gyfran fwyaf o ofalwyr hŷn yn y DU.
Mae adroddiad Age Cymru - dan yr enw Crisis in Care? - yn tanlinellu nad ydy'r gofalwyr hynny mewn rhannau o'r wlad wastad yn cael asesiad anghenion gofal nac asesiad gofalwr.
Mae'n dweud hefyd bod pecynnau gofal sy'n cael eu cynnig yn aml yn hepgor gofal nos - adeg pan fo pobl sydd angen gofal yn gallu bod ar eu mwyaf bregus.
O dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant - ddaeth yn gyfraith yn y Cynulliad ym mis Ebrill 2016 - mae gan ofalwyr hawliau penodol ac mae gan gynghorau ddyletswydd i wneud pobl yn ymwybodol ohonyn nhw.
Er hynny, mae 'na awgrym nad ydy pobl yn gwybod am eu hawliau neu yn cael eu dal gan waith papur neu alwadau i ganolfannau ffôn.
4,500 o alwadau
"'Dyn ni'n clywed yn aml gan bobl hŷn sy'n ei chael hi'n anodd i gael gofal cymdeithasol," meddai Meirion Hughes, cadeirydd Age Cymru wrth raglen Eye on Wales.
Dywedodd bod eu staff wedi derbyn "dros 4,500 o alwadau am ofal cymdeithasol" yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law'r elusen, mae gwahaniaethau mawr yn y ganran o bobl dros 65 sydd wedi cael asesiad anghenion gofal. Dim ond 1.5% o'r bobl rheiny sydd wedi cael yr asesiad yng Nghasnewydd - y lleiaf - o gymharu â 23% - y mwyaf - yn Wrecsam.
"'Dyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ymateb i'r pryderon hyn a rhoi sicrwydd i ni y bydd yr holl bobl hŷn ar draws Cymru yn gallu cael y gofal a'r gefnogaeth maen nhw ei angen, sy'n cynnwys asesiad gofalwr."
Fe ddywedodd Rebecca Evans AC, y gweinidog sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol, y byddai'n ailystyried y ddeddfwriaeth.
"Dwi wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n cael canlyniadau positif i ofalwr trwy'r hawliau ychwanegol mae'r ddeddf yn eu rhoi.
"Cafodd y dyletswyddau hynny eu gosod i gydnabod y rôl hanfodol sydd gan ofalwyr, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu gweithredu."
Mae Eye on Wales ar BBC Radio Wales nos Sul 29 Hydref am 18:30.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2017