Gwahardd aelod cabinet Llywodraeth Cymru wedi honiadau

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant

Mae Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru wedi dweud mai'r "peth iawn" yw camu o'r neilltu am y tro yn dilyn "honiadau" yn ei erbyn.

Dywedodd y blaid Lafur yng Nghymru eu bod hefyd wedi gwahardd Carl Sargeant, a bod y chwip wedi'i dynnu oddi wrtho yn y Cynulliad.

Yn ôl yr AC fe ddaeth yr honiadau yn "sioc", a dydy o ddim yn gwybod ar hyn o bryd beth yw natur yr honiadau.

Mae bellach wedi gadael ei rôl weinidogol, a hynny wrth i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ad-drefnu ei gabinet.

'Clirio fy enw'

Mewn datganiad brynhawn ddydd Gwener, dywedodd Mr Sargeant: "Fe wnes i gwrdd â'r prif weinidog heddiw a dywedodd wrtha' i fod honiadau am fy ymddygiad personol, a achosodd sioc a loes i fi.

"Dydw i ar hyn o bryd ddim yn gwybod manylion yr honiadau.

"Dwi wedi ysgrifennu at ysgrifennydd cyffredinol Llafur Cymru gyda chais am ymchwiliad annibynnol brys i'r honiadau hyn er mwyn i mi allu clirio fy enw.

"Oherwydd natur yr honiadau, cytunais gyda'r prif weinidog ei bod hi'n iawn fy mod i'n gadael y cabinet heddiw. Dwi'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'r llywodraeth unwaith dwi wedi clirio fy enw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones wedi gofyn i'r blaid Lafur gynnal "ymchwiliad llawn" i'r honiadau

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog: "Yn dilyn honiadau sydd wedi dod yn y dyddiau diwethaf am ymddygiad Carl Sargeant, mae'r Prif Weinidog wedi ei dynnu o'r cabinet ac wedi gofyn i Lafur Cymru gynnal ymchwiliad llawn."

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur yng Nghymru: "Mae Carl Sargeant wedi'i wahardd fel aelod o'r blaid, a hefyd o'r chwip Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol, tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiadau sydd wedi'u gwneud."

Cafodd Mr Sargeant ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn 2003, ac mae wedi bod yn weinidog llywodraeth ers 2007.