Emyr Young: Y dyn tu ôl i'r lens
- Cyhoeddwyd
Mae ei lais yn gyfarwydd i genedlaethau o blant Cymru a'i luniau bendigedig yn arddurno cloriau nifer o lyfrau a chylgronau Cymraeg. Ond pwy yw Emyr Young?
Actor oedd Emyr i ddechrau a bu'n cyflwyno rhaglenni plant cyn dyddiau S4C. Fe hefyd oedd chauffeur y cymeriad chwedlonol hwnnw Mistar Urdd pan roedd e ar ei daith gynta o amgylch Cymru yn niwedd y 70au. Ond i blant Cymru, fe yw llais Sgerbwd, un o brif gymeriadau'r cartŵn poblogaidd Superted.
Ers rhai blyndydoedd bellach mae Emyr wedi gwneud enw iddo ei hun fel ffotograffydd uchel ei barch. Bu'n rhannu ei stori gyda Cymru Fyw..
Emyr Glasnant oedd fy enw pan yn actor, sef fy enwau canol, ac ymunes i 'da chwmni Theatr y Werin yn Aberystwyth ar ôl gadael coleg a methu cael swydd fel athro.
Nhw oedd y cwmni theatr mewn addysg Cymraeg cyntaf, a fuon ni'n teithio a pherfformio led led Sir Aberteifi a'r cylch.
Ges i'n swyno gan fyd teledu wedyn i gyflwyno rhaglen gylchgrawn Seren Un ar HTV, gan feddwl bod cyflwyno'n beth hawdd iawn i wneud. Ond doedd e ddim!
Ar y pryd doedd dim autocue, o'n i'n gorfod dysgu sgriptiau yn sôn am ffasiwn diweddaraf pobl ifanc ac o'n i'n anghysurus iawn yn ei wneud.
Er ges i fodd i fyw yn gweithio gyda Sharon Morgan oedd yn cyflwyno'r rhaglen gyda fi, a gawson ni lot o sbri. Ond na, doedd fy nyfodol ddim mewn cyflwyno.
'Pluen yn fy nghap'
Ond wnes i hefyd ymddangos fel actor mewn cyfresi drama i blant yn y cyfnod, a fues i'n ddyn drwg yn fersiwn yr 80au o SOS yn Galw Gari Tryfan.
Ond yn bennaf mi wnes i ddechre' wneud gwaith lleisio cyfresi wedi'u hanimeiddio a throsleisio rhaglenni.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fues i'n gwneud cyfresi fel Cei Cocos ac, a fues i'n ddigon ffodus i gael rhan Sgerbwd ar Superted, ac felly o'n i'n rhan o'r rhaglen gyntaf i ymddangos ar S4C, so fi'n cymryd hynna fel pluen yn fy nghap.
Beth oedd yn arbennig am leisio Superted hefyd oedd ein bod ni'n lleisio yn Gymraeg, a'r animeiddio'n cael ei wneud o gwmpas hynny.
Ond roedd hi'n broses ddrud ac felly ar ôl dwy gyfres fe wnaethon nhw ddilyn y drefn arferol o osod y sgript Gymraeg i ffitio animeiddio oedd wedi'i greu yn Saesneg.
Ro'dd y cyfnod yma'n un gwych i deledu Cymraeg, gyda'r holl gwmnïau bach yn medru bod yn arbrofol a gwneud pethau difyr ac mae pethau wedi newid dipyn ers hynny, ac er gwaeth yn fy marn i.
Y 'stafell dywyll
'Rwy wastad wedi tynnu lluniau. Pan yn y Coleg Normal, oedd 'da fi gamera a fi oedd un o'r ychydig bobl oedd yn defnyddio ystafell dywyll y coleg.
Dysgais i lot am dynnu lluniau yng nghyfnod coleg. O'n i'n tynnu lluniau bandiau fel Brân, Ac Eraill, Hergest a gyda fi mae un o ychydig luniau'r band Cwrwgl Sam... band cynnar Derec Brown.
Roedd hi'n gyfnod ffilm, a'r ffilm, y papur a'r broses yn un ddrud iawn, ond mae 'da fi dorraeth o 'negs' ddylen i sganio a gwneud rhywbeth â nhw. Ond blynyddoedd yn hwyrach ddaeth y newid byd i mi mewn ffotograffiaeth.
Anrheg yn newid popeth
Yn y 90au wnes i weithio fel athro am gyfnod. Ro'n i'n dod ymlaen gyda'r plant yn iawn, ond ddim yn lico'r cyfundrefnau.
Y cyfnod hwnnw oedd dechrau diwedd oes ffilm ac, fel anrheg, ges i gamera digidol, ac o'r foment yna ymlaen o'n i wrth fy modd.
Ges i lawer o gymorth gan ffrind i mi, Tim Collier, sy'n ffotograffydd arbennig o dda a ges i lot fawr o gymorth a chyngor 'da fe, ac anogaeth hefyd. Roedd yn dweud bod fy ngwaith yn ddifyr a ddylen i gario 'mlaen a daeth yn beth naturiol i mi dynnu lluniau'n broffesiynol.
Ar hyn o bryd dwi wrthi'n creu llyfr i gwmni Gomer ar Sir Benfro o'r enw Tir Hela'r Cof fydd yn gyfuniad o bortreadau o bobl a thirwedd. Dwi wedi dod nôl i fyw i Sir Benfro felly peth naturiol i mi oedd gwneud hyn.
Dilyn Rembrandt
Ond fy hoff arddull yw portreadau o bobl ac os oes rhaid i mi ddewis pwnc arbenigol, yna creu portreadau fyddai hynny.
Roedd ffotograffydd enwog o'r enw Eisenstaedt oedd yn arfer gweithio i Life Magazine a ddywedodd e fod ddim hawl 'da ti wasgu'r caead ar y camera nes bod ti wedi dod i nabod y bobl oeddet ti'n tynnu llun ohonyn nhw.
Mae pob llun dwi'n tynnu yn hunan bortread. Dwi'n gweld fy hun yn y llun. Mae'r llygaid yn bwysig hefyd. Roedd gan artistaid fel Rembrandt neu Caravaggio y ddawn i ddal beth oedd yn llygaid unigolion yn berffaith. Fel ffotograffydd, rwy'n trio dilyn yn ôl eu traed nhw lle mae'n bosib.