Carl Sargeant: Teulu'n galw am ymchwiliad llawn

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant

Mae teulu'r diweddar Carl Sargeant wedi cyhoeddi gohebiaeth sy'n awgrymu fod yr honiadau yn ei erbyn yn ymwneud â "sylw di-eisiau a chyffwrdd amhriodol".

Cafodd y cyn-weinidog 49 oed ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah fore Mawrth.

Yn y datganiad, mae'r teulu'n dweud eu bod yn rhyddhau'r wybodaeth "yng ngoleuni'r amharodrwydd i egluro natur yr honiadau yn erbyn Carl".

Daw hyn wrth i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wynebu cwestiynau am y modd y gwnaeth ddelio gyda'r mater.

Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones: "Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb, yn enwedig teulu Carl, sy'n dal i ddod i delerau gyda'r newyddion ofnadwy yma.

"Fel pawb yn nheulu Llafur Cymru, mae Carwyn yn teimlo ergyd drom o golli ffrind.

"Yfory bydd ACau Llafur Cymru yn cyfarfod yn y Cynulliad i gofio Carl ac i drafod digwyddiadau trasig yr wythnos aeth heibio.

"Bydd Carwyn yn gwneud datganiad pellach wedi'r cyfarfod."

Mae llefarydd arall wedi dweud mai Plaid Lafur y DU wnaeth gychwyn ymchwiliad i'r honiadau yn erbyn Mr Sargeant.

Bellach, mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton wedi galw ar Mr Jones i ymddiswyddo, gan ddweud ei fod wedi "methu yn ei ddyletswydd i ofalu" am Mr Sargeant.

'Dim cyfiawnder naturiol'

Ychwanegodd datganiad y teulu: "Hyd at ei farwolaeth drasig fore dydd Mawrth, chafodd Carl ddim o'i hysbysu o unrhyw fanylion yr honiadau yn ei erbyn, er gwaethaf ceisiadau a rhybudd am ei les meddyliol."

Mae'r ohebiaeth hefyd yn datgelu pryderon y cyfreithiwr fod ymddangosiadau yn y cyfryngau gan y Prif Weinidog ddydd Llun yn niweidio'r ymchwiliad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llyfr o gydymdeimlad i Carl Sargeant wedi ei agor yn y Cynulliad

"Hoffai'r teulu ddatgelu'r ffaith fod Carl yn mynnu ei fod yn ddieuog a'i fod yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o'i le.

"Roedd y poen meddwl o fethu ag amddiffyn ei hun yn iawn yn erbyn honiadau amhenodol yn golygu na chafodd y cwrteisi, gweddustra na'r cyfiawnder naturiol."

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur: "Yn dilyn honiadau ddaeth i sylw Llafur Cymru drwy law Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fe gychwynnwyd ymchwiliad gan blaid Lafur y DU.

"Fe wnaeth llywodraethiant y blaid Lafur a'r Uned Gyfreithiol siarad â Carl Sargeant ac - yn unol â gweithdrefnau a gytunwyd - amlinellu natur yr honiadau oedd wedi eu derbyn a sut y byddai'r broses gŵynion yn gweithio."

'Ddim yn gywir'

Ond mewn datganiad pellach gan gyfreithwyr ar ran teulu Mr Sargeant, mae'r teulu'n gwadu fod Llafur wedi cynnig cymorth i'r cyn-weinidog wedi iddo gael ei ddiswyddo, ac maen nhw'n galw eto am ymchwiliad.

Dywed y datganiad: "Mae wedi cael ei awgrymu fod cefnogaeth wedi ei chynnig i Mr Sargeant. Dyw hi ddim yn glir ar ba ffurf oedd y gefnogaeth a gynigiwyd, ond nid yw hynny'n gywir.

"Ni chafodd unrhyw gefnogaeth ei gynnig i Mr Sargeant heblaw am gefnogaeth bersonol gan gyfeillion agos a'i deulu.

"Mae'r teulu yn gobeithio wrth fynd ymlaen y bydd ymchwiliad llawn a chraffu ar y modd y gwnaeth y gwahanol bartïon ddelio gyda'r honiadau, Mr Sargeant yn bersonol a'r datganiadau sydd wedi eu gwneud yn y wasg a'r cyfryngau.

"Does dim amheuaeth y bydd y rhai oedd â dyletswydd glir o ofal am Carl ac i'w deulu angen darparu eglurhad maes o law am eu safbwyntiau yn y drasiedi yma."

'Diswyddo dideimlad'

Mae arweinydd UKIP Cymru, Neil Hamilton wedi galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i ymddiswyddo gan ddweud ei fod "wedi methu yn ei ddyletswydd i ofalu" am Mr Sargeant.

"Mae'n amlwg fod y ffordd y cafodd ei ddiswyddo yn ddideimlad ac yn mynd yn groes i egwyddor sylfaenol cyfiawnder naturiol - sy'n rhoi'r cyfle i'r un sy'n cael ei gyhuddol i amddiffyn ei hun."

Yn gynharach, dywedodd un AC Llafur wrth BBC Cymru fod "cwestiynau ar gyfer y prif weinidog am hyn", tra bod un arall wedi dweud bod "cwestiynau ynglŷn â'r mater o ddyletswydd i ofalu".

Dywedodd un AC Llafur bod "cwestiynau am y broses gafodd ei ddilyn", a'i bod yn "anodd deall pam y cafodd Carl ei daflu i ffau'r llewod" gan ddweud bod Mr Sargeant wedi cael ei "ynysu heb i unrhyw benderfyniad gael ei wneud am ei euogrwydd".

"Mae pryder mawr yn y grŵp am y ffordd y mae hyn wedi cael ei drin."

Disgrifiad,

Mae'n bwysig cofio bod gwleidyddion angen cefnogaeth ar adegau hefyd medd Dyfed Edwards

Roedd hi'n edrych fel bod y pwysau a'r Mr Jones yn cynyddu ddydd Mercher wrth i'r AS Ceidwadol, Chris Davies alw ar Carwyn Jones i ymddiswyddo, ac AS Llafur blaenllaw, Dawn Butler yn galw am ymchwiliad annibynnol.

Mewn cyfweliad radio gyda'r BBC fe wnaeth Ms Butler ddweud fod angen ymchwiliad annibynnol i'r modd y gwnaeth Llafur Cymru ddelio gyda'r honiadu.

Ond yn ddiweddarach fe gyhoeddodd hi ddatganiad yn dweud ei bod wedi astudio'r achos yn fwy manwl a'i bod nawr yn credu "fod y broses gywir wedi ei dilyn, gan gynnwys sicrhau nad oedd enwau y rhai oedd yn gwneud yr honiadau yn cael eu datgelu".

Mae cyn-archwilydd ar safonau ym mywyd cyhoeddus wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i ddiswyddiad Mr Sargeant, oedd yn AC Alun a Glannau Dyfrdwy.

Dywedodd Syr Alistair Graham wrth raglen Wales Live bod Llywodraeth Cymru'n anghywir i ddiswyddo Mr Sargeant heb ddatgelu'r manylion am yr honiadau yn ei erbyn.