Galwadau am ymddiswyddiad Carwyn Jones 'yn rhy gynnar'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru'n dweud y dylai Carwyn Jones gael gwrandawiad teg a bod y galwadau arno i ymddiswyddo'n 'rhy gynnar'.
Roedd Leanne Wood ymateb, wedi i rai alw ar Mr Jones i adael ei swydd, yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant ddyddiau wedi iddo fe gael ei ddiswyddo o'r llywodraeth.
Roedd Mr Sargeant yn wynebu ymchwiliad yn ymwneud â honiadau o "gyffwrdd amhriodol", a'r gred yw ei fod wedi lladd ei hun.
Dywedodd Ms Wood y dylai pobl sy'n ceisio "elwa'n wleidyddol" o'r digwyddiadau "bwyllo".
Dywedodd wrth ITV Cymru y dylai Carwyn Jones gael gwrandawiad teg er mwyn cael ateb cwestiynau.
Cafodd Mr Sargeant, AC Alyn a Dyfrdwy, ei ganfod yn farw ddydd Mawrth, bedwar diwrnod wedi i Mr Jones ei symud o'i swydd fel ysgrifennydd cymunedau yng nghabinet Llywodraeth Cymru.
Ddydd Gwener, cyhoeddodd Mr Jones y byddai yna ymchwiliad i'r modd y deliodd e â honiadau yn erbyn Mr Sargeant. a'r hyn wnaeth yn dilyn hynny.
'Cwestiynau i'w hateb'
Dywedodd Ms Wood fod y galwadau arno i ymddiswyddo yn rhy gynnar: "Mae yna gwestiynau i'w hateb ac mae'n haeddu cael gwrandawiad teg i'w hateb nhw.
"Byddwn i'n dweud fod yna rai pobl sy'n ceisio ela'n wleidyddol o'r digwyddiadau, ac fe fyddwn i'n dweud wrth y bobl hynny am 'bwyllo, nid nawr yw'r amser'."
Croesawodd yr ymchwiliad i roi ateb i deulu, ffrindiau a chydweithwyr Mr Sargeant.
Ond dywedodd: "dwi'n credu ei bod hi'n bwysig nad y'n ni'n anghofio am y cwynwyr ar ddechrau hyn, ac mae'n hollbwysig fod pobl yn teimlo eu bod yn gallu dod ymlaen ac adrodd achosion o aflonyddu pan fyddan nhw'n codi."
Fe gyfeiriodd Ms Wood hefyd at y ffaith ei bod hi'n bosib nad yw Plaid Cymru wedi trin achosion o aflonyddu "gyda'r difrifoldeb y maen nhw'n eu haeddu" yn y gorffennol.
Mewn erthygl ar Nation.Cymru, fe ymddiheurodd wrth "unrhyw un sydd wedi cwyno" yn y gorffennol, os nad oedd "camau priodol neu ddigonol wedi eu cymryd".
"Fe wnes i hefyd, yn fy ieuenctid, brofi hyn.
"Weithiau, fe heriais i, ar adegau eraill, ddwedais i ddim byd," ysgrifennodd.
"Fy neges i i unrhyw un sy'n dod at Blaid Cymru gyda prhyderon neu fanylion am aflonyddu yw - byddwn yn ei gymryd o ddifri, byddwn yn eich cefnogi chi a byddwn yn cymryd y camau priodol er mwyn sicrhau ein bod yn ymchwilio i'r cwynion yn drylwyr a theg."
Beirniadodd teulu Carl Sargeant y penderfyniad i ddewis swyddog o'r gwasanaeth sifil yng Nghymru i sefydlu'r ymchwiliad annibynnol, gan ddweud mai swyddog o'r tu allan i'r wlad ddylai fod yn gyfrifol.
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai craffu gan gorff annibynnol yn syniad da, dan arweinyddiaeth Cwnsler y Frenhines ac mai pennaeth y gwasanaeth sifil yng Nghymru ddylai sefydlu'r broses.
Wrth ymateb i feirniadaeth teulu Mr Sargeant, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oes modd amau natur ddi-duedd y gwasanaeth sifil.