Ewro 2020: Na i gais Cymru
- Cyhoeddwyd
Fydd gemau terfynol cystadleuaeth Ewro 2020 ddim yn ymweld â Chymru.
Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) wedi gwneud cais i fod yn un o'r 13 o ddinasoedd ledled Ewrop sydd i gynnal y rowndiau terfynol.
Y gobaith oedd cynnal rhai o'r gemau yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
Fe fydd y gystadleuaeth yn ymweld â Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon.
Bydd y ffeinal a'r ddwy gêm gyn-derfynol yn cael eu cynnal yn Wembley.
Baku, Munich, St Petersberg a Rhufain yw'r dinasoedd sydd wedi eu dewis i gynnal y gemau go gynderfynol.
Y dinasoedd eraill fydd yn llwyfannu'r gemau grŵp yw Amsterdam, Dulyn, Bucharest, Glasgow, Bilbao, Brwsel, Copenhagen a Budapest.
Fe wnaeth UEFA gyhoeddi eu penderfyniad yn Genefa.
Mewn datganiad, fe ddywedodd yr FAW eu bod nhw'n "amlwg yn hynod siomedig yn dilyn y newyddion, ond yn llongyfarch y dinasoedd hynny sydd wedi eu dewis i gynnal gemau Ewro 2020.
"Roedden ni'n credu y byddai Stadiwm y Mileniwm, gyda 74,154 o seddi a llu o adnoddau lletygarwch, yn lleoliad delfrydol...
"Yn ogystal, roedd ein cynnig llety a theithio yn gryf, gan fod pedwar maes awyr rhyngwladol wedi eu lleoli o fewn dwyawr i Gaerdydd, a'n bod ni'n llwyddo i gynnig llety i 41,000 o gefnogwyr, yn unol ag ymrwymiad teithio'r FAW...
"Wrth gwrs, 'dy ni'n parchu dewis UEFA."
Ychwanegodd y gymdeithas mai Ewro 2016 yw'r nod yn awr, a sicrhau fod gan garfan Chris Coleman bob cefnogaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2012