Cyngor Caerdydd yn cefnogi cais i gynnal gemau Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r gemau yn cael eu chwarae yn Stadiwm Principality, oedd yn lleoliad ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr eleni

Mae cynghorwyr yng Nghaerdydd wedi cymeradwyo cais arall i'r brifddinas geisio cynnal rhai o gemau Euro 2020.

Yn 2014 fe fethodd Caerdydd â chael ei dewis fel un o'r 13 dinas ar draws Ewrop fydd yn cynnal gemau yn y gystadleuaeth.

Ond yn dilyn ansicrwydd ynglŷn â pharodrwydd un o'r meysydd - yr Eurostadium yn Grimbergen, Gwlad Belg - mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael cynnig i ailgyflwyno eu cais.

Mae gan swyddogion yng Ngwlad Belg nes 20 Tachwedd i brofi fod ganddyn nhw'r trwyddedau perthnasol i adeiladu'r stadiwm.

'Unwaith mewn bywyd'

Os nad ydyn nhw fe fydd UEFA yn cyhoeddi ar 7 Rhagfyr pa ddinas arall o'r tri sydd wedi cael gwahoddiad - Caerdydd, Llundain neu Stockholm - fydd yn cael ei dewis.

Yn ogystal â chefnogaeth ariannol gan yr awdurdod lleol, bydd yn rhaid i gais Caerdydd hefyd gael sêl bendith cyrff megis Stadiwm Principality, Heddlu'r De, Maes Awyr Caerdydd, a llywodraethau Cymru a'r DU.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Mae'r byd yn gwybod y gall Caerdydd gynnal sioe. Fe wnaeth cynnal Cynghrair y Pencampwyr ym mis Mai ddangos hynny heb amheuaeth."

Ychwanegodd y cynghorydd Peter Bradbury: "I'r rhan fwyaf o bobl fe fydd hwn yn gyfle unwaith mewn bywyd i brofi gwefr pencampwriaethau'r Euro yn agos i adref."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae prif weithredwr CBDC, Jonathan Ford eisoes wedi dweud y byddai'r Gymdeithas "wrth eu bodd" yn ailgyflwyno eu cais

Ond fe wnaeth cynghorwyr eraill, gan gynnwys y Democrat Rhyddfrydol Joe Boyle, ddweud y byddai angen sicrhau fod "pobl sydd ddim yn gefnogwyr pêl-droed yn gefnogol i'r syniad".

Ychwanegodd Keith Parry o Blaid Cymru y byddai angen sicrhau fod y cwmnïau trenau yn barod ar gyfer y digwyddiad, er mwyn osgoi'r sefyllfa "cywilyddus" pan nad oedd digon o drafnidiaeth yn dilyn gornest focsio ddiweddar.

Byddai'r cais, petai'n llwyddiannus, yn golygu fod tair gêm grŵp ac un gêm yn rownd yr 16 olaf yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd yn ystod y gystadleuaeth.

Ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o bencampwriaethau Euro, byddai'n rhaid i hyd yn oed y gwledydd fydd yn cynnal gemau ennill eu lle yno drwy'r gemau rhagbrofol.