Copa'r Wyddfa - 50 o weithiau eleni!
- Cyhoeddwyd
Ar 19 Tachwedd roedd Elfed Williams, neu Elfed Gyrn Goch fel y mae'n cael ei adnabod, yn cerdded i fyny'r Wyddfa am ei hanner canfed tro eleni. Fe ymunodd rhai o gast y gyfres deledu Rownd a Rownd gydag Elfed ar y daith, i'w helpu godi arian at elusen Ambiwlans Awyr Cymru, gan rannu eu lluniau ar eu tudalen Facebook, dolen allanol.
Cafodd mab Elfed, Tomos Huw, ddamwain ddifrifol yn ei waith yn 2013, ac ers hynny mae Elfed wedi cymryd rhan mewn sawl her i godi arian i'r elusen, a arbedodd fywyd ei fab.
"Mae gen i ddwy daith arall i fynd fyny'r Wyddfa cyn gorffen yr her. Dwi'n gobeithio neith y mab Tomos ddod hefo fi ar yr un nesa' a wedyn mi fydd y daith ddwytha' ar ddydd Gwener, Rhagfyr 8fed a chyngerdd gyda'r nos yn y Galeri yng Nghaernarfon i ddod â'r her i ben.
"Mae pawb wedi bod mor dda a chefnogol. £5,000 o'n i wedi feddwl ei godi, ond dwi wedi cael dros £7,000 yn barod. Erbyn i mi orffen, dwi'n gobeithio fydda i wedi cyrraedd £10,000."
Mae Elfed wedi bod yn casglu arian at Ambiwlans Awyr Cymru ers blynyddoedd, a cherddodd o Fae Colwyn i Gaerdydd yn 2014, fel rhan o ymgyrch Cerddwn Ymlaen gyda'r canwr Rhys Meirion. Mae cerdded fyny'r Wyddfa hanner cant o weithiau yn ystod y flwyddyn, wedi bod yn dipyn o her, meddai.
"Mi gerddais i fyny'r Wyddfa chwe gwaith ym mis Hydref, a ddwywaith yr un diwrnod yn yr Haf. Mi wnes i gerdded Crib Goch unwaith hefyd oedd dipyn bach yn heriol i fi. Roedd yn gul iawn ar y top, wnes i fwynhau o, ond roedd hynny'n her! Dwi wedi cerdded y chwe llwybr swyddogol, mae wedi bod yn braf i amrywio'r teithiau i wneud yr her yn fwy diddorol.
"Am fod y gyngerdd ar 8 Rhagfyr, r'on i am orffen ar y diwrnod hwnnw felly mae'n rhaid cyrraedd 52 erbyn hynny. Dwi wedi mwynhau ei neud o. Dwi wedi cyfarfod â dipyn o bobl ddiddorol ar hyd y ffordd."
Byw ei freuddwyd
"Mae Tomos wedi gwella'n dda. Mae o'n ôl yn gyrru loris erbyn hyn, yn teithio dramor, a dyna oedd ei freuddwyd. Collodd ei drwydded am dair blynedd oherwydd yr anaf i'w ben, felly mae o wedi dod yn bell.
"Digwyddodd y ddamwain ym Mlaenau Ffestiniog a daeth yr Ambiwlans Awyr i fynd â fo i'r ysbyty ym Mangor. Roedd yr anaf mor ddifrifol oedd yn rhaid i'r Ambiwlans Awyr ddod yn ôl i fynd â fo i'r ysbyty yn Stoke. Heblaw am yr Ambiwlans Awyr, bysa fo ddim yma heddiw."