Galw am ymchwiliad i fwlio o fewn Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar ACau i gwestiynu Carwyn Jones am honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Andrew RT Davies fod angen "ymchwiliad arbennig" yn dilyn honiadau am "awyrgylch wenwynig" gan gyn-weinidog yn y llywodraeth a chyn-ymgynghorydd i Carwyn Jones.
Mae'r gwrthbleidiau yn anhapus gyda Carwyn Jones am iddo beidio ag ymhelaethu yn y Senedd am yr hyn yr oedd yn ei wybod ynglŷn â honiadau o fwlio.
Brynhawn Iau dywedodd Carwyn Jones yn bendant nad oedd wedi camarwain y Cynulliad, a'i fod wedi ymddwyn o fewn cod ymddygiad gweinidogion ar bob achlysur.
Yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, dywedodd y cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd arbenigol Steve Jones bod bwlio a thanseilio'n nodweddiadol o fewn y llywodraeth yn y gorffennol.
'Nôl yn Nhachwedd 2014 gofynnwyd i Carwyn Jones os oedd unrhyw adroddiadau o fwlio gan ymgynghorwyr yn y tair blynedd flaenorol.
Ar y pryd, dywedodd nad oedd honiadau o'r fath wedi eu gwneud, ond ddydd Mawrth dywedodd iddo ddelio gydag "unrhyw broblem daeth i'r amlwg".
Fore Mercher fe wrthododd ymhelaethu ar y mater, gan wneud ambell i aelod yn flin o ganlyniad.
Craffu
Dywedodd Andrew RT Davies wrth raglen Wales Live: "O fewn y Cynulliad mae pwyllgor i graffu ar y Prif Weinidog a allai gwrdd er mwyn lansio ymchwiliad arbennig i'r maes yma
"Mae i fyny i'r pwyllgor a'r cadeirydd sut maen nhw'n parhau gydag unrhyw ymchwiliad, ond gan edrych ar y diddordeb gan y cyhoedd a diffyg atebion gan y Prif Weinidog, yn ogystal â mesur pa mor ddifrifol yw'r cyhuddiadau, dwi'n awgrymu dylai bod ymchwiliad cyn gynted â phosib."
Mae AC Plaid Cymru, Adam Price wedi dweud fod y cwestiwn ynglŷn ag os yw'r Prif Weinidog wedi camarwain y Cynulliad yn "mynd i wraidd ein democratiaeth".
Ychwanegodd: "Ni allwn gael sefyllfa ble mae'r arweinydd yn camarwain."
Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones ei fod "wedi bod yn gwbl glir" ac yn "glynu at yr hyn a ddywedodd yn 2014".
"Mae hefyd wedi bod yn glir ei fod wedi delio gydag unrhyw broblem a godwyd gyda fe ar y pryd."
Mae'r llywodraeth eisoes wedi dweud nad ydyn nhw'n cydnabod yr hyn sy'n cael ei ddweud gan Leighton Andrews na Steve Jones.
Ond mae dau unigolyn arall a oedd yn arfer gweithio i'r llywodraeth, nad oedd eisiau cael eu henwi, wedi dweud: "Fe fydda chi'n deffro yn y bore ddim yn gwybod os oedd cefnogaeth i chi.
"Roedd tanseilio, roedden nhw i gyd yn bethau cynnil, fel pwy fase'n cael mynediad at y Prif Weinidog..."
"Yr un person fyddai wedi gallu newid hynny oedd y Prif Weinidog, ond roedd o'n aml yn gadael i bobl eraill osod y tôn."
Ond mae un aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur wedi dweud wrth BBC Cymru fod Mr Andrews yn defnyddio "amgylchiadau trasig ar gyfer budd gwleidyddol".
Dywedodd yr AS ei bod hi'n "ymddangos bod fendeta yn erbyn Carwyn Jones" a bod nifer o ASau yn teimlo'r un fath.
Doedd yr AS ddim eisiau siarad yn agored oherwydd teimlad bod "angen cyfnod o barch a thawelwch".
Mae Leighton Andrews wedi ymateb drwy ddweud: "Mae'n gwbl amhriodol i bobl sydd heb gael cysylltiad gyda'r teulu [Carl Sargeant] i ymosod ar y rheiny sydd wedi cael cysylltiad cyson gyda'r teulu ac sy'n siarad drostyn nhw.
"Rwyf wedi gwneud fy sylwadau yn ffurfiol ac mae'n llwfr fod ASau yn ymosod arnai yn anhysbys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017