'Pryder' Kirsty Williams am ffi £10,000 Clive Woodward

  • Cyhoeddwyd
Clive WoodwardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Syr Clive Woodward ennill Cwpan y Byd gyda Lloegr yn 2003

Mae Kirsty Williams wedi mynegi ei "phryder" ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod cyn-hyfforddwr rygbi Lloegr wedi cael ei dalu £10,000 i siarad mewn cynhadledd addysg.

Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru wrth ACau ddydd Mercher y byddai'n cwrdd â phennaeth corff addysg GwE i drafod y mater.

Cafodd Syr Clive Woodward ei dalu o leiaf £10,000 am siarad mewn cynhadledd yn Llandudno ym mis Gorffennaf.

Dywedodd GwE eu bod wedi gwahodd siaradwyr gwadd oedd yn gallu ffurfio a hybu timau llwyddiannus.

'Swm mor uchel'

Cafodd is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts hefyd ei wahodd i siarad yn yr un gynhadledd yn ei amser ei hun.

Y gred yw ei fod yn dal i ddisgwyl derbyn ei ffi o £500 am y digwyddiad.

Dywedodd GwE, sydd yn ceisio gwella safonau addysg yng ngogledd Cymru, eu bod wedi gwario cyfanswm o £20,875 ar y digwyddiad.

Gyda 125 o bobl yn mynychu, medden nhw, roedd hynny gyfystyr â £167 yr un.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Osian Roberts yn un arall wnaeth siarad yn y gynhadledd

Ond dywedodd Ms Williams fod ganddi bryderon fod "swm mor uchel o arian" wedi ei wario.

"Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad gyda'r consortia i fynegi fy mhryder am y gwariant," meddai.

"Byddaf yn codi hyn yn uniongyrchol gyda'r rheolwr gyfarwyddwr yn fy sesiwn herio-ac-adolygu, sydd yn digwydd 'fory yn Llandudno."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio'r taliad gafodd ei wneud i Mr Woodward fel un "anhygoel".