£3m ar gyfer theatrau modwlar yn Ysbyty Maelor, Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael £3m er mwyn gosod dwy theatr fodwlar ar gyfer llawdriniaethau dydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Fe fydd y theatrau'n agor ym Mawrth 2018, ac fe fydd ystafell endosgopi hefyd yn cael ei gosod yn yr ysbyty.

Bu'n rhaid i ddwy theatr endosgopi a dwy theatr ddydd gau dros dro o ganlyniad i bryderon am y system awyru.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething bydd yr arian yn helpu'r bwrdd i "gymryd y camau sydd eu hangen" i wella cyfleusterau'r ysbyty.

Mae'r theatrau modwlar yn cael eu disgrifio fel adeiladau "lled-barhaol" sy'n cynnwys yr un offer technegol â theatr ysbyty confensiynol.

Cydweithio'n agos

Mae'r bwrdd iechyd ei hun wedi talu am logi dwy theatr symudol am chwe mis o Ionawr 2018.

Dywedodd prif weithredwr y bwrdd, Gary Doherty: "Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ers i'r theatrau yn Ysbyty Maelor Wrecsam gau.

"Rydyn ni'n falch ein bod wedi gallu mynd ati'n syth i wella'r sefyllfa. Bydd y cyfleusterau newydd hyn yn sicrhau y bydd pobl Wrecsam a'r cyffiniau yn parhau i gael gwasanaeth o ansawdd uchel yn y dyfodol."

Dywedodd Mr Gething bod hi'n "flaenoriaeth" i bobl Cymru gael y gwasanaethau gofal iechyd diweddaraf mewn amgylchedd diogel.

"Rwy'n falch o gyhoeddi dros £3m o gyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gymryd y camau sydd eu hangen i wella cyfleusterau Ysbyty Maelor Wrecsam," meddai.

"Bydd hyn hefyd yn galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i weithio'n effeithlon a darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion yn Wrecsam a'r cyffiniau, a chyrraedd y safonau perfformiad gofynnol."