Rhybuddio staff i beidio 'beirniadu' Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru ar ddeall bod staff sy'n gweithio i Gynghorau Iechyd Cymuned (CHC) wedi cael eu rhybuddio gan reolwyr i beidio â beirniadu na chodi cywilydd ar Lywodraeth Cymru ynglŷn â chynlluniau i ddiddymu'r cyrff gwarchod annibynnol.
Mae gweinidogion wedi bod yn ymgynghori ar greu un sefydliad i ddisodli y Cynghorau Iechyd Cymuned.
Dywedodd un aelod o Gyngor Iechyd Cymuned wrth raglen Sunday Politics Wales bod ymateb y cyngor y mae e'n gweithio iddo i'r ymgynghoriad wedi ei newid i fod yn llai beirniadol.
Mae Cadeirydd Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned, Mutale Merrill wedi dweud nad yw hynny'n wir.
Mae'r Cynghorau Iechyd Cymuned yn gyrff annibynnol sy'n cynrychioli buddiannau cleifion.
Mae saith yng Nghymru - un ar gyfer pob bwrdd iechyd sy'n rhedeg gwasanaethau y GIG. Fe gafodd y cynghorau eu diddymu yn Lloegr yn 2003 ac yn yr Alban yn 2005.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod cwestiynau ynglŷn â hyblygrwydd model y Cynghorau Iechyd Cymuned, sy'n bodoli ers 1974 "i ymateb i wasanaethau gofal a chymdeithasol sy'n gynyddol yn cydweithio ar draws sefydliadau gwahanol".
Maent yn cyfeirio hefyd at "ddiffyg gwelededd" ac yn dweud nad ydynt yn "gynrychioliadol o gymunedau lleol".
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig creu "trefniant annibynnol newydd yn lle'r Cynghorau Iechyd Cymuned . . . a fydd yn delio â meysydd gofal iechyd a chymdeithasol".
Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Medi.
Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall fod staff sy'n gweithio i'r Cynghorau Iechyd Cymuned ar draws Cymru wedi cael cais i beidio â beirniadu cynlluniau'r llywodraeth yn ormodol.
Dywedodd un aelod o staff, nad yw am gael ei enwi, mai dyna pam bod ymateb un cyngor wedi ei "feddalu".
Mae Mutale Merrill, cadeirydd Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned, sy'n cynrychioli ac yn gosod safonau i sefydliadau, yn dweud nad oes gwirionedd yn yr adroddiadau.
"Dwi'n adnabod fy staff ac mae'r aelodau wedi gweithio'n galed yn ystod y cyfnod ymgynghorol a dwi'm yn credu ei bod hi'n deg ac mae'n annoeth i sibrydion o'r fath ymledu."
Dywedodd AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd: "Mae awgrymu na ddylai pobl godi cywilydd ar y llywodraeth yn esgeuluso dyletswyddau."
Mae Mr Gruffydd hefyd wedi beirniadu cynlluniau'r llywodraeth.
"Mae'r Cynghorau Iechyd Cymuned yng ngogledd Cymru yn cael eu gweld fel gwarchodwyr buddiannau'r cleifion," meddai.
Croesawu sylwadau gonest
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud mai'r nod yw "ceisio cryfhau cysylltiad pobl" â meysydd gofal iechyd a chymdeithasol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn credu'n gryf y dylai pobl fod yn rhydd i wneud sylwadau'n agored ac yn onest ar unrhyw broses ymgynghori, yn enwedig un a allai effeithio ar ddyfodol eu sefydliad."
Sunday Politics Wales BBC 1 Cymru am 11.00 ar ddydd Sul 26 Tachwedd