Cabinet yn cynnig codi treth cyngor Sir Benfro 12.5%

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Sir BenfroFfynhonnell y llun, Ceridwen/Geograph

Fe allai treth cyngor yn Sir Benfro godi 12.5% fel rhan o gynlluniau sy'n cael eu hystyried gan gabinet yr awdurdod.

Yn ôl Bob Kilmister, yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gyllid, mae angen ystyried codiad o'r lefel yna yn wyneb diffyg o £3.5m yn eu cyllideb y flwyddyn nesaf.

Ond mae cyn-arweinydd y cyngor, John Davies, yn erbyn codiad o'r fath.

Yn Sir Benfro mae'r dreth cyngor ar ei hisaf yng Nghymru.

Dau opsiwn

Daeth cabinet Cyngor Penfro at ei gilydd fore Llun i drafod y posibilrwydd o godi trethi er mwyn osgoi toriadau pellach i wasanaethau.

Fe gytunodd y grŵp ar ddau opsiwn fydd yn cael eu hystyried gan weddill y cyngor:

  • Codiad treth o 12.5% gydag arbedion gwerth £13m sydd eisoes wedi eu dethol;

  • Neu godiad treth o 5% gyda thoriadau mwy i wasanaethau.

Ar hyn o bryd does yna ddim uchafswm codiad treth cyngor, ond mae gan Lywodraeth Cymru drefniant 'anffurfiol' na ddylai'r uchafswm fod uwchlaw 5%.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bob Kilmister y byddai mwy o doriadau yn "achosi poen a dioddefaint"

Does 'na'r un cyngor wedi herio'r trefniant hwnnw, a dywedodd Mr Kilmister nad ydy'n gwybod sut y byddai Llywodraeth Cymru'n ymateb i godiad mwy.

"Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni ystyried un ai dorri gwasanaethau mewn modd llym neu godi'r dreth cyngor isaf yng Nghymru i lefel derbyniol, ond fe fyddai hyn yn achosi poen a dioddefaint i bobl," meddai.

Dywedodd fod Sir Benfro wedi dioddef yn sgil lefel isel y dreth cyngor yno, gan ychwanegu nad oes yna awch am doriadau pellach.

Ond wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd y Cynghorydd John Davies - sy'n gyn-arweinydd yr awdurdod - mai "barn un cynghorydd yw hwnna".

"Ym marn cynghorydd arall sy'n eistedd yr ochr draw i chi'n fan hyn, bydde hwnna'n hollol annerbyniol," meddai.

'Ystyried yn ofalus'

Mae treth cyngor Band D yng Nghymru yn £1,420 ar gyfartaledd yn 2017-18. Yn Sir Benfro mae'r dreth yma'n £1,128 ac ym Mlaenau Gwent yn £1,754.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod angen i gynghorau "ystyried yn ofalus canlyniadau 10 mlynedd o doriadau gan Lywodraeth Prydain ar gyflogau pobl".

Yn gynharach ym mis Tachwedd fe wnaeth hanner cynghorwyr Sir Benfro gymryd rhan mewn pleidlais anffurfiol ar lefelau treth y flwyddyn nesaf. Fe wnaeth bron i hanner gefnogi cynnydd o 10% tra bod un rhan o bump o'r rhai a bleidleisiodd wedi cefnogi cynnydd o 30%.

Bydd cyllideb ddrafft yr awdurdod yn cael ei chyhoeddi ar 14 Rhagfyr cyn i'r penderfyniad terfynol gael ei gymryd ym mis Mawrth.