Ymestyn benthyciad i'r Ardd Fotaneg yn Sir Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Gardd Fotaneg GenedlaetholFfynhonnell y llun, PA

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cytuno i barhau i roi cefnogaeth ariannol i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne.

Mewn cyfarfod ddydd Llun, dywedodd aelodau'r bwrdd gweithredol bod cynnydd diweddar yn nifer yr ymwelwyr ac yn incwm yr atyniad yn galonogol.

Ar ôl ystyried cynllun busnes yr ardd dros bum mlynedd, fe gytunodd y bwrdd i ymestyn benthyciad yr awdurdod - £1.35m - am ddwy flynedd ychwanegol hyd at 31 Mawrth 2020, ac i barhau ar y telerau di-log presennol.

Bydd yr ardd hefyd yn parhau i gael defnyddio pedwar ffermdy a thyddyn am yr un cyfnod.

'Yn well na'r targed'

Mae'r adroddiad oedd o flaen y cynghorwyr yn awgrymu bod rhai o gamau'r cynllun busnes eisoes yn dechrau helpu sefydlogi sefyllfa ariannol yr ardd:

  • Yn 2016/2017, roedd 20,000 yn fwy o ymwelwyr, cynnydd o 17% mewn blwyddyn;

  • Roedd 19,922 o ymwelwyr i'r atyniad ym mis Gorffennaf eleni - cynnydd o 33% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, a 4% yn well na'r targed;

  • Roedd incwm yr ardd yn 23% yn uwch nag yn 2015/2016.

Mae cynllun gwerth £7m wedi cychwyn i adfer hen erddi hanesyddol o gyfnod y Rhaglywiaeth - safle oedd yn un o barciau dŵr gorau Prydain.

Cyrsiau preswyl

Mae 'na obaith y bydd y cynllun, sy'n cael £3.55m o arian loteri, yn hwb i'r sectorau twrisiaeth, cadwriaeth a threftadaeth ac yn creu cyfleoedd i wirfoddoli a datblygu sgiliau.

Hefyd mae 'na fwriad i ailwampio a diogelu'r ffermdai er mwyn eu gosod i ymwelwyr ac i gynnal cyrsiau preswyl.

Fe allai'r incwm hynny fynd at ad-dalu benthyciad y cyngor.

Mae'r ardd wedi wynebu ansicrwydd ariannol sawl tro ers agor yn 2000.