Cyngor yn cwtogi nawdd i'r Ardd Fotaneg
- Cyhoeddwyd
Bydd y nawdd y mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne'n ei dderbyn gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei gwtogi yn y dyfodol.
Dywedodd y cyngor y bydd y nawdd yn gostwng o £70,000 eleni i £50,000 y flwyddyn nesaf, ac yna i £30,000 yn 2017-18.
Bydd y nawdd yn dibynnu ar yr ardd yn ehangu'r defnydd o'r iaith Gymraeg ac yn dod yn fwy cynaliadwy.
Mae'r cyngor wedi cytuno mewn egwyddor i roi grant o £50,000 ar gyfer cynllun tirlunio - os yw cais am £6.7m o arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri'n llwyddiannus.
Dywedodd bwrdd gweithredol y cyngor ei fod am gwrdd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod maint y nawdd y mae'n ei ddarparu i'r ardd.
Yn ôl aelodau'r bwrdd, fe allai'r ardd weithio gyda'r Mentrau Iaith er mwyn dod yn ddwyieithog, ac edrych ar gynlluniau masnachol eraill yn y dyfodol i ddenu ymwelwyr.
Dywedodd arweinydd y cyngor Emlyn Dole fod angen "newid", "cyfeiriad" a "marchnata" ar yr ardd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2015
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2015
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2015
- Cyhoeddwyd1 Medi 2014