Cyngor Môn yn rhoi sêl bendith i godi parc solar mawr

  • Cyhoeddwyd
Solar

Mae Cyngor Ynys Mon wedi cymeradwyo gynllun i adeiladu parc solar mwyaf Cymru hyd yma ar Ynys Môn.

Cafodd y cais i greu parc solar 90 hectar (222 acer) rhwng Cemaes ac Amlwch ei wrthod ddechrau Tachwedd, a hynny er i swyddogion argymell ei ganiatáu.

Ond ddydd Mercher, pleidleisiodd cynghorwyr dros roi sêl bendith i'r cynllun, dolen allanol, gyda phedwar cynghorydd o blaid, un yn erbyn a phedwar yn ymatal eu pleidlais.

Cwmni Countryside Renewables sydd wedi gwneud y cais am y paneli solar ac isadeiledd cysylltiedig.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r parc solar yn cael ei adeiladu ar dir rhwng Cemaes ac Amlwch

Bydd y paneli solar yn gallu cynhyrchu digon o drydan ar gyfer tua 15,000 o gartrefi.

Mae'r cynllun wedi rhannu barn yn lleol, gyda nifer o ddatganiadau yn erbyn y cynllun gwreiddiol ar sail maint y datblygiad a'r effaith ar yr amgylchedd.

Ond yn ôl John Dunlop, partner-rheolwr Countryside Renewables, mae'r cynigion wedi eu cynllunio'n ofalus a'r prosiect "yn gyfle rhy bwysig i'w golli".