ACau: 'Argyfwng' o ran bancio cymunedol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
BanciauFfynhonnell y llun, BBC/Reuters

Mae Plaid Cymru wedi dweud fod "argyfwng" o ran bancio cymunedol yng Nghymru, yn sgil cau nifer uchel o ganghennau.

Dywedodd Adam Price wrth ACau fod dros 180 o ganghennau wedi cau yng Nghymru ers 2011.

"Mae 'na argyfwng o ran bancio cymunedol. Rydyn ni nawr mewn sefyllfa mewn sawl rhan o Gymru ble nad oes gwasanaethau ariannol ar gael o gwbl," meddai.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn annog banciau masnachol i gynnal rhwydwaith cryf o ganghennau ar draws y wlad.

'Dirmyg'

Ychwanegodd y gweinidog y byddai modd helpu'r sefyllfa wrth "sicrhau fod y Swyddfa Bost yn gallu cymryd cyfrifoldeb dros ystod ehangach o weithredoedd banciau, a sicrhau bod modd i bobl ar draws Cymru fod yn aelod o undeb gredyd".

Fe wnaeth Simon Thomas o Blaid Cymru grybwyll banciau'n cau yn Llandysul, gan ddweud: "16 mlynedd yn ôl roedd pedwar banc ar y stryd fawr yn Llandysul, nawr does dim un. Mae'n dref farchnad sydd heb unrhyw bancio o gwbl."

Dywedodd Mr Thomas y dylai gweinidogion bwyso am "rwymedigaethau statudol er mwyn i fusnesau a chwsmeriaid, a dinasyddion mewn ardaloedd gwledig gael mynediad at fancio".

Dywedodd yr AC Llafur, Mick Antoniw fod rhai banciau yn dangos "dirmyg i'r syniad o wasanaeth cwsmeriaid".