Dafydd Elis-Thomas 'heb gael addewid o sedd cabinet'
- Cyhoeddwyd
Mae Dafydd Elis-Thomas wedi mynnu na chafodd addewid o sedd yn y cabinet pan adawodd Plaid Cymru y llynedd.
Cafodd AC Dwyfor Meirionnydd ei wneud yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon fis diwethaf wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ad-drefnu ei dîm.
Fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas adael Plaid Cymru ym mis Hydref 2016, bum mis wedi etholiadau'r Cynulliad.
Mae bellach yn eistedd fel aelod annibynnol yn y Senedd.
'Cydweithio'
Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru, dywedodd y gweinidog newydd nad oedd wedi disgwyl cael cynnig y rôl o gwbl.
Ychwanegodd nad dyna'r rheswm iddo adael Plaid Cymru - plaid y buodd o'n arweinydd arni rhwng 1984 ac 1991.
"Mi wnes i adael Plaid Cymru oherwydd fy mod i anghytuno ar y pryd hefo'r agwedd roedd Plaid Cymru yn ei gymryd tuag at bleidiau eraill yn y Cynulliad," meddai.
"Dwi'n credu bod yn rhaid i ni gydweithio mewn Cynulliad cymharol fach i wlad o dair miliwn o bobl.
"Pan ddaeth cynnig i mi gydweithio drwy fod yn aelod o'r llywodraeth mi dderbyniais o, oherwydd bod 'na gyfle i mi wneud be oeddwn i wedi bod yn gobeithio ei wneud mewn cynifer o wahanol feysydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2016