Elis-Thomas: 'Dim cylch haearn arall tra mod i'n weinidog'

  • Cyhoeddwyd
argradd artist o'r cylch haearn
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o sut fyddai'r cylch haearn ger Castell Y Fflint wedi edrych

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi dweud wrth Cymru Fyw na fydd unrhyw brosiectau fel y Cylch Haearn yn Sir y Fflint yn cael eu cymeradwyo tra'i fod o yn y swydd.

Cafwyd ffrae fawr eleni pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu adeiladu'r cerflun ger Castell Y Fflint - cynllun sydd bellach wedi'i ddiddymu.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas na fyddai cynllun arall o'r fath yn digwydd "yn ystod fy ngweinidogaeth i".

Dywedodd hefyd y byddai unrhyw lwyddiant yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf yn dod "er gwaethaf", nid oherwydd, Brexit.

'Ddim yn ffan'

Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddodd y llywodraeth fuddsoddiad o £630,000 yng nghastell Y Fflint fyddai wedi cynnwys cerflun o gylch haearn.

Ar y pryd dywedodd y penseiri y byddai'n nodi'r lleoliad ble wnaeth i Richard II ildio coron Lloegr i Harri IV, ac y byddai ei "faint a'i olwg ddeinamig yn golygu y bydd yn dirnod fydd yn hawdd i'w adnabod yn yr ardal".

Ond cafwyd ymateb chwyrn i'r cynllun, yn rhannol oherwydd y cysylltiad â'r 'cylch haearn' o gestyll a adeiladodd Edward I pan goncrodd Cymru, gydag un AC Plaid Cymru'n galw'r cynllun yn "sarhad ar y genedl".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Elis-Thomas wedi bod yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ers mis Tachwedd

Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi rhagweld yr ymateb cryf i'r prosiect cyn ei dewis yn y lle cyntaf.

Ym mis Medi fe gyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates - oedd yn gyfrifol am ddiwylliant, twristiaeth a chwaraeon ar y pryd - na fyddai'r cynllun yn mynd yn ei flaen.

Bellach mae Dafydd Elis-Thomas yn gyfrifol am bortffolios diwylliant, twristiaeth a chwaraeon, yn dilyn ad-drefnu cabinet y llywodraeth fis diwethaf.

Dywedodd wrth Cymru Fyw nad oedd ganddo awydd bwrw ati gyda phrosiectau tebyg yn y dyfodol: "Fydd 'na ddim cleddyfau a fydd 'na ddim cylchoedd haearn yn ystod fy ngweinidogaeth i."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas nad oedd yn hoff iawn o'r cleddyf yn Llanberis

Roedd hynny, meddai, yn cynnwys cerfluniau fel y cleddyf gafodd ei godi wrth ymyl Llyn Padarn yn Llanberis yn ddiweddar.

"Dwi ddim yn ffan fawr ohono - bydd rhaid i chi ofyn i Gyngor Gwynedd am hwnnw."

Brexit

Ddydd Llun fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas lansio Blwyddyn y Môr 2018 - y trydydd ymgyrch thematig blynyddol i hybu twristiaeth yng Nghymru.

Mae ffigyrau diweddar wedi awgrymu cynnydd yn nifer y twristiaid o dramor sy'n ymweld â Chymru, gyda gostyngiad yng ngwerth y bunt ers refferendwm yr UE yn cael ei grybwyll fel un ffactor bosib.

Ond mynnodd y gweinidog fod pryder o hyd am beth fyddai effaith Brexit ar y diwydiant yn yr hir dymor.

Ffynhonnell y llun, Richard Hoare/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gweinidog yn credu y bydd gofyn i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru lwyddo "er gwaethaf" Brexit

"Dwi ddim yn meddwl fod 'na unrhyw agwedd ar yr economi yng Nghymru fydd ar ei hennill o'r penderfyniad i ymadael yr Undeb Ewropeaidd - dyna pam nes i bleidleisio i aros," meddai.

"Wedi dweud hynny, os cawn ni fod yn rhan o'r Farchnad Sengl lle mae'r hyn 'dan ni'n ei gynnig ar gael i bawb yn rhesymol ac agored, ac os 'di'r drws yn agored hefyd i bobl allu dod i weithio yn y diwydiant twristiaeth o Ewrop a rhannau eraill o'r byd, yna y mae'n cynnyrch twristiaeth ni'n mynd i barhau i ffynnu.

"Ond dwi'n meddwl y bydd hynny er gwaethaf Brexit, nid o'i herwydd."