Codi corff ar Ynys Môn er mwyn ei adnabod

  • Cyhoeddwyd
Pauline FinlayFfynhonnell y llun, RTÉ
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Pauline Finlay ar goll yn 1994, saith mis cyn i gorff gael ei ddarganfod ar Ynys Môn

Cafodd gweddillion corff dynes, a gafodd eu gosod mewn bedd anhybsys ar Ynys Môn dros 20 mlynedd yn ôl, eu datgladdu yn dilyn seremoni fer fore Mawrth.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ceisio darganfod ai gweddillion Pauline Finlay, 49, ydyn nhw ar ôl iddi ddiflannu o Sir Wexford.

Cafodd y corff ei ddarganfod ar draeth Porth Trecastell ger Rhosneigr yn Hydref 1994, ond methodd yr heddlu a'r crwner ar y pryd ddarganfod corff pwy yn union oedd e.

Ar ôl cynnal adolygiad o'r holl achosion oedd heb eu datrys, a gyda chymorth profion DNA, cafodd yr achos yma ei ail-agor.

Fore Mawrth, yn dilyn seremoni fer pryd cafodd y corff fendith gan ficer lleol, cafodd y gweddillion eu datgladdu a'u cludo mewn hers i Ysbyty Gwynedd Bangor.

Bydd y gweddillion yn cael eu harchwilio yn ddiweddarach yn yr wythnos.