Ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i addysg bellach
- Cyhoeddwyd
Bydd rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ehangu i gynnwys colegau addysg bellach a'r sectorau dysgu sy'n seiliedig ar waith.
Daeth y cyhoeddiad wrth i'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams dderbyn yn ffurfiol argymhellion yr adolygiad o weithgareddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gafodd ei gyhoeddi'n gynharach eleni.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod y coleg yn gwneud cyfraniad allweddol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch ac y dylid ehangu ei gylch gwaith.
Cafodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei sefydlu yn 2011 gyda'r bwriad o gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynllun Gweithredu
Yn unol â'r cynlluniau, bydd gofyn i'r coleg weithio gyda Llywodraeth Cymru i greu cynllun gweithredu ffurfiol i ddatblygu darpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg dros y tair blynedd nesaf.
Byddan nhw hefyd yn sefydlu bwrdd cynghori ôl-16 o arbenigwyr yn y maes i roi cyngor ar ddatblygu'r cynllun ac unrhyw ymyriadau yn y dyfodol.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Ms Williams: "Nod Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, a lansiwyd yn yr haf, yw datblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol i helpu pawb, beth bynnag yw eu gafael ar yr iaith, i ddatblygu sgiliau Cymraeg i'w defnyddio'n gymdeithasol ac yn y gweithle.
"Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i ddatblygu cyfleoedd i bob dysgwr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
"Rwy'n falch y bydd y Coleg yn gallu gweithredu ar yr argymhellion hyn a'i fod eisoes mewn cysylltiad â'r sector ôl-16 ac yn datblygu ei weithgareddau ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Delyth Evans, a gadeiriodd y grŵp gorchwyl a gorffen a gynhaliodd yr adolygiad: "Rwy'n falch bod yr adroddiad wedi cael ei groesawu a bod yr argymhellion i gyd wedi eu derbyn.
"Bydd yn gyfnod cyffrous i'r Coleg yn y dyfodol ac rwy' wrth fy modd bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi gallu cyfrannu i'r datblygiad ac wedi creu sylfaen ar gyfer newidiadau i'r dyfodol."
'Angen sicrhau adnoddau'
Tra'n croesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Ffred Ffransis o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei bod yn bwysig fod y llywodraeth yn sicrhau'r adnoddau angenrheidiol: "Mae'n wych bod y Coleg wedi cael sicrwydd am ei ddyfodol ac yn datblygu cyfrifoldeb dros y Gymraeg mewn addysg bellach ac addysg yn y gweithle yn ogystal ag addysg uwch draddodiadol.
"Croesawn hefyd y ffaith y daw'r Coleg yn ffocws i ddarparu adnoddau Cymraeg ar gyfer yr ysgolion.
"Ond ni chaiff y potensial hwn ei wireddu heb i'r llywodraeth roi i'r Coleg ei hun adnoddau teg i gyflawni'r gwaith."
"Y sector addysg Gymraeg fydd y cynllun peilot ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru, ac felly mae'n hollbwysig bod y llywodraeth yn dyrannu'r adnoddau angenrheidiol i'r Coleg i sicrhau llwyddiant y fenter."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd2 Awst 2016