Llu newydd i daclo troseddu yng Ngwent
- Cyhoeddwyd
Mae llu newydd i atal troseddau yn cael ei sefydlu yng Nghymru, sef yr Heddlu Bach yng Nghasnewydd.
Plant rhwng 9-11 oed o dair ysgol gynradd yn y ddinas sydd wedi cael eu recriwtio fel Heddlu Bach cyntaf Cymru, ac fe fyddan nhw ar batrôl gydag oedolion Heddlu Gwent.
Mae 58 o blant o ysgolion Millbrook, Ringland a Philgwenlli yw'r cyntaf i ymuno â'r llu, ac mae bwriad i ymestyn y cynllun i 20 ysgol arall yn ardal Heddlu Gwent.
Pum disgybl o Ysgol Pilgwenlli a gafodd eu dewis i'r cynllun yw Joseph, Zeena, Aliyah, Alexis ac Ahmed. Dywedodd Aliyah: "Roeddwn i am helpu'r gymuned, helpu'r heddlu a helpu pawb arall sydd angen help gennym ni."
Roedd mam Aliyah, Ayesha yn falch iawn o'i merch gan ddweud: "Mae hi wedi bod yn siarad am fod yn un o'r Heddlu Bach ers hydoedd... roedd hi'n disgrifio yn union beth yr oedd am wneud i'r gymuned a beth mae hi am ei wneud pan fydd hi'n hŷn, a gallwn i ddim bod yn fwy balch ohoni."
Bydd y swyddogion ifanc newydd yn rhan o ddiwrnod o weithredu ar draws Casnewydd ddydd Mercher, gan gerdded y strydoedd, cyfarfod pobl leol ym Mhilgwenlli a siarad gyda nhw am eu pryderon am droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Y llynedd roedd yr ardal yn y newyddion pan fu anhrefn ar y strydoedd ym mis Hydref 2016. Cafodd tân gwyllt a cherrig eu taflu ar gerbydau'r gwasanaethau brys, ac roedd llawer o'r bobl leol ofn gadael eu cartrefi.
Fe gafodd tri dyn eu carcharu am eu rhan yn y digwyddiad.
Ers hynny mae Heddlu Gwent wedi bod yn gweithio'n galed i sefydlu cysylltiadau gyda'r gymuned, ac mae meithrin perthynas gyda'r genhedlaeth iau yn rhan o hynny yn ôl yr Arolygydd Paul Davies.
"Ry'n ni'n gobeithio bydd hyn yn cael effaith fawr ar eu hyder," meddai, "ac ar deimlad positif o fewn yr ysgol a'r gymuned.
"Fe fyddan nhw'n llysgenhadon i'w hysgolion... mae'n gyfle gwych, ac fe allwch chi weld y wên ar eu hwynebau."
Fe gafodd yr Heddlu Bach cyntaf eu sefydlu pum mlynedd yn ôl gan Heddlu Durham wedi i blismon lleol ddweud ei fod am wella'r berthynas rhwng yr heddlu a'r gymuned ym mhentref Catchgate.
Roedd troseddu yn broblem fawr yn yr ardal.
Bum mlynedd yn ddiweddarach mae'r cynllun wedi ehangu i dros 100 o ysgolion ar draws Lloegr, ond Gwent yw'r ardal gyntaf yng Nghymru i ymuno.
Y flwyddyn nesaf mae disgwyl i Heddlu Dyfed Powys hefyd ymuno, a'r gobaith yw y bydd Heddlu Bach yn aelodau o fwy na hanner lluoedd heddlu'r DU erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2016