Cwest i farwolaeth safle ailgylchu
- Cyhoeddwyd
Mae Cwest wedi'i agor yn dilyn marwolaeth dyn a gafodd ei ddal mewn peiriant ar safle ailgylchu ym Mae Cinmel.
Bu farw Norman Butler, 60 oed ar safle Recycle Cymru ym Mharc Diwydiannol Tir Llwyd, Bae Cinmel ar 3 Tachwedd ar ôl mynd yn sownd mewn peiriant.
Er i'r gwasanaethau brys cael eu galw i'r digwyddiad roedd Mr Butler wedi marw yn y fan ar lle.
Mewn gwrandawiad yn Rhuthun dywedodd y Crwner, John Gittins fod y patholegydd wedi datgan mai o ganlyniad i golli llawer o waed y bu Mr Butler farw.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r digwyddiad, ac er i Mr Gittins ddweud byddai cwest llawn yn digwydd ym mis Mai, mae posib caiff ei ohirio ymhellach.
Gan mai damwain ddiwydiannol ydoedd mae rhaid i reithgor fod yn rhan o'r cwest.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2017