Cyhoeddi cyflwynwyr gorsaf newydd Radio Cymru 2

  • Cyhoeddwyd
RC2

Mae'r BBC wedi cyhoeddi pwy fydd yn cyflwyno ar orsaf Gymraeg newydd Radio Cymru 2 yn y flwyddyn newydd.

Bydd yr orsaf ar yr awyr am ddwy awr bob bore ar radio digidol, teledu digidol ac ap BBC iPlayer Radio.

Dafydd Meredydd a Caryl Parry Jones fydd yn cyflwyno bedwar diwrnod yr wythnos, gyda Huw Stephens yn camu i'r sedd gyflwyno ar foreau Gwener.

Lisa Angharad sydd â'r cyfrifoldeb ddydd Sadwrn, a Lisa Gwilym fydd yn cwblhau'r tîm ar fore Sul.

Daeth cyhoeddiad fis diwethaf y bydd yr orsaf newydd yn dechrau darlledu ar 29 Ionawr 2018.

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd a Caryl fydd yn cyflwyno ddydd Llun at ddydd Iau

Amserlen llawn Radio Cymru 2

Dydd Llun - Iau, 06:30 - 08:30: Dafydd a Caryl

Dydd Gwener, 06:30 - 08:30: Huw Stephens

Dydd Sadwrn, 07:00 - 09:00: Lisa Angharad

Dydd Sul, 08:00 - 10:00: Lisa Gwilym

Daw'r cynlluniau diweddaraf yn dilyn yr arbrawf welodd y BBC yn arbrofi gyda gorsaf dros dro, Radio Cymru Mwy y llynedd.

Ni fydd sioe frecwast newydd Radio Cymru 2 yn effeithio ar amserlen Radio Cymru ar FM a DAB yn y cyfamser.

Cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant fydd ar y gwasanaeth newydd, tra bydd Radio Cymru yn parhau i ddarlledu'r Post Cyntaf.