Cynnig brechiad Hepatitis A yng Nghorwen wedi achosion

  • Cyhoeddwyd
Hepititis AFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Bydd tua 170 o bobl sy'n gysylltiedig ag ysgol gynradd yng Nghorwen yn cael cynnig brechiad Hepatitis A yn dilyn achosion o'r haint yn ardal Sir Ddinbych a De Gwynedd.

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y bydd sesiwn frechu ar gyfer plant Ysgol Caer Drewyn, eu brodyr a'u chwiorydd ac aelodau'r staff, yn digwydd ddydd Llun 18 Rhagfyr.

Mae saith achos o Hepatitis A bellach wedi eu cadarnhau yn y gymuned, sy'n cynnwys tri phlentyn sy'n mynychu'r ysgol.

Dydy'r tîm rheoli achosion ddim yn credu bod yr haint wedi cael ei ddal yn Ysgol Caer Drewyn, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gydag adrannau iechyd yr amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Gwynedd, yn dal i ymchwilio i'r ffynhonnell.

Dydy'r brechlyn Hepatitis A ddim yn cael ei gynnig ar y GIG yn aml am fod yr haint yn brin yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y sesiwn frechu ar gyfer plant Ysgol Caer Drewyn yn digwydd ddydd Llun 18 Rhagfyr

Mae brechu yn yr ysgol yn cael ei gynnig fel cam rhagofalus, gan fod Hepatitis A yn lledaenu'n hawdd rhwng plant ifanc, fydd heb symptomau'n aml ond yn gallu trosglwyddo'r haint i bobl eraill.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, does dim cysylltiad rhwng yr achosion hyn a dau achos arall o Hepatitis A a gofnodwyd yn ardal y Rhyl yn gynharach eleni.

Symptomau

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Hepatitis A yn haint feirysol, sydd yn parhau am gyfnod byr fel arfer, sydd â symptomau amhleserus ond yn anaml yn ddifrifol. Mae plant yn aml iawn ond yn cael salwch ysgafn iawn neu ddim symptomau o gwbl.

"Gall y symptomau gynnwys salwch fel y ffliw fel blinder, poenau a doluriau cyffredinol, cur pen a thwymyn, yn ogystal â cholli archwaeth, cyfog neu chwydu, poenau yn yr abdomen, clefyd melyn, troeth tywyll iawn a chroen coslyd.

"Golchi dwylo'n dda ar ôl bod i'r tŷ bach a chyn paratoi neu fwyta bwyd yw'r ffordd orau o atal y feirws rhag lledaenu.

"Mae plant yn gallu trosglwyddo'r feirws i bobl eraill heb gael unrhyw symptomau felly rydym yn atgoffa rhieni i annog golchi dwylo'n dda bob amser."

Y cyngor i rieni sy'n poeni am eu hiechyd neu iechyd eu plentyn yw i gysylltu â'u meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

Mae mwy o wybodaeth am Hepatitis A ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dolen allanol.