Y ddynes 27 oed allai farw drwy ddal annwyd
- Cyhoeddwyd
Mae dynes ifanc o Gastell-nedd sy'n dioddef o gyflwr prin sy'n gyfuniad o dri salwch yn dweud y gallai dal annwyd fod yn ddigon i'w lladd.
Dros y naw mlynedd diweddaf mae Hannah Amelia Evans, 27, wedi bod yn ceisio ymdopi gyda'r tri chyflwr sy'n peryglu ei bywyd.
Oherwydd prinder arbenigwyr yng Nghymru mae'n rhaid iddi deithio i ysbyty preifat yn Llundain yn achlysurol.
Mae'r unig le yn y DU sy'n cynnig triniaeth iddi wedi costio dros £80,000 i'w theulu.
Gan nad oes modd iddi wella'n llwyr, dyw Hannah bellach methu cael yswiriant.
System imiwnedd
Yn 19 oed cafodd Hannah ddiagnosis o Syndrom Ethlers Danlos, cyflwr genetig sy'n effeithio ar feinwe'r corff.
Dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ddiagnosis o Syndrom Postural Orthostatic Tachychardic, sy'n golygu na all ei chorff reoleiddio curiad y galon, pwysau gwaed, tymheredd y corff nac adrenalin yn awtomatig.
Pe bai corff Hannah yn dechrau cynhyrchu adrenalin yna byddai ddim yn gwybod pryd i roi'r gorau iddi, a gallai hynny achosi ffitiau.
Er gwaethaf cyfnodau o fod yn hynod sâl ac yn yr ysbyty, llwyddodd Hannah i raddio o'r brifysgol.
Ond yn 24 oed, fe gafodd ddiagnosis arall - Mass Cell Activation Disorder (MCAD). Hwn yw'r mwyaf prin o'r cyflyrau ac mae'n golygu fod celloedd yn ymosod ar gelloedd gwaed gwyn, gan effeithio ar y system imiwnedd.
"Yn anffodus yn ystod fy swydd gyntaf fel athrawes, fe ges i'r frech goch ond doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai effaith yr MCAD," meddai.
"Yn y diwedd bu'n rhaid mynd â fi i'r uned gofal dwys, a bu bron i mi farw."
"Roeddwn ar beiriant cynnal bywyd - a hynny oherwydd bod fy nghorff yn ymosod ar ei hunain yn hytrach nag ymladd yn ôl pan fydda' i'n sâl.
"Mae'n anodd, yn enwedig adeg yma o'r flwyddyn, i hyd yn oed mynd allan.
"Mae'n rhaid i mi osgoi cael annwyd... fe allai hynny fod yn ddigon i'm lladd. Rwy'n gwisgo mwgwd i fynd allan."
'Dim pris ar fywyd'
Oherwydd difrifoldeb ei chyflyrau, mae'n rhaid i rywun fod gyda Hannah 24 awr y dydd. Mae'n rhaid iddi gymryd 100 o feddyginiaethau bob diwrnod, ac mae nyrs ardal yn galw i roi meddyginiaethau drwy drip IV.
Dywedodd ei mam, Helen Harry: "Bob tro mae Hannah yn mynd i Lundain a gan fod rhaid prynu'r cyffuriau yn ogystal â gweld yr ymgynghorwyr, rydych yn sôn am hyd at £1,200 y tro, ac mae hynny bob chwech i wyth wythnos.
"Mae'n rhaid i ni dalu am unrhyw ymchwiliad na all y gwasanaeth iechyd dalu amdano. Ers bod Hannah yn 18 oed - tua naw mlynedd - rydym wedi gwario dros £80,000.
"Gallwch chi ddim rhoi pris ar fywyd eich plentyn."
Ychwanegodd: "Y pryder yw beth wnaiff ddigwydd pan nad oes mwy o arian.
"Does dim modd gwella'r cyflwr.
"Ond rhaid peidio meddwl fel hynny. Rydym yn mynd o ddydd i ddydd, a thalu fel hynny. Rydych yn gwerthu pethau, yn gweithio yn galetach, ac yn rhoi mwy o ymdrech i godi arian."